Ymchwiliad i ddyfodol Masnachfraint Reilffordd Cymru a'r Gororau
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gyfer ymchwiliad i ddyfodol Masnachfraint Reilffordd Cymru a'r Gororau.
Ymysg y materion y bydd y Pwyllgor yn eu hystyried fel rhan o'r ymchwiliad yw a yw'r fasnachfraint bresennol yn ateb anghenion teithwyr a pha wersi y dylid eu dysgu ohoni.
Bydd hefyd yn edrych ar sut y dylai'r fasnachfraint wella profiad teithwyr yn y dyfodol, gan gynnwys y llwybrau, y lefelau gwasanaeth a'r cerbydau y dylid eu cynnwys, a sut y dylai teithwyr, cymunedau a llywodraeth leol gymryd rhan yn y broses o'i datblygu a'i rhoi ar waith.
Bydd y fasnachfraint newydd yn dechrau yn 2018.
Meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Mae'r Pwyllgor wedi penderfynu archwilio dyfodol Masnachfraint Cymru a'r Gororau ar ôl inni archwilio trafnidiaeth integredig yng Nghymru yn fwy eang.
“Gwnaeth yr ymchwiliad hwnnw amlygu materion ynghylch integreiddio gwasanaethau rheilffordd gyda dulliau eraill o deithio, ac, yn awr, mae'r Pwyllgor am edrych yn fwy manwl ar sut y dylid rhoi'r fasnachfraint reilffordd ar waith yn y dyfodol.
“Bydd yr ymchwiliad hwn yn edrych ar yr hyn y gellir ei ddysgu o'r fasnachfraint bresennol, a sut y gall y fasnachfraint newydd ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar deithwyr, gan sicrhau gwerth am arian i deithwyr a threthdalwyr yn fwy cyffredinol hefyd.
“Hoffem glywed gan bobl sy'n defnyddio ac yn gweithredu'r gwasanaethau rheilffordd hyn, a'r rheiny sy'n gweithio gyda hwy, i’n helpu i lywio ein canfyddiadau ac i lunio ein hargymhellion.”
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i pwyllgor.menter@cymru.gov.uk.
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Dr Siân Phipps
Clerc y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn Dydd Gwener 13 Medi 2013 ac, yn ddelfrydol, ni ddylai fod yn hwy na phedwar tudalen A4, dylid rhifo'r paragraffau a dylid ei chyflwyno mewn fformat Word. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.