Ymchwiliad newydd gan y Pwyllgor Menter a Dysgu
7 Mai 2010
Mae ymchwiliad ar fin dechrau i ganfod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Bydd Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar pa mor effeithiol yw’r strategaethau a ddefnyddir i sicrhau bod pobl rhwng 16 a 24 oed un ai mewn addysg, mewn cyflogaeth neu’n astudio i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer dechrau gyrfa.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos, yn 2007, bod mwy na 56,000 o bobl ifanc nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae hynny’n fwy nag un o bob deg o bobl ifanc rhwng 16 a 18 ac yn fwy nag un o bob 15 o bobl rhwng 19 a 24 oed.
Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu: “Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael cymaint o gymorth â phosibl i ddysgu crefft neu ddechrau gyrfa.
“Os nad ydynt yn cael y cymorth angenrheidiol, maent mewn perygl o ddisgyn mewn i gylch dieflig a all fod yn anodd dianc ohono.
“Wrth gynnal ymchwiliadau fel hyn, mae hi’r un mor bwysig clywed am brofiadau’r rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â hyn ag ydyw i glywed gan y rhai sy’n cynhyrchu’r strategaethau.
“Rydym am glywed gan unigolion neu deuluoedd pobl sydd wedi ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith, neu gael addysg neu hyfforddiant.
“Gall y profiadau hynny ein helpu i ddod i gasgliadau a chyfrannu, yn y pen draw, at ddarparu gwasanaeth gwell i roi’r cychwyn gorau posibl i bobl ifanc yn eu bywydau.”
Gall unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad anfon e-bost i:
enterprise.learning.comm@cymru.gsi.gov.uk
neu ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor Menter a Dysgu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd, CF99 1NA.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw 10 Mehefin 2010.