Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad newydd i effaith amrywiadau treth incwm mewn gwledydd sydd â ffiniau agos ac i effaith bosibl cyfraddau treth incwm gwahanol yn y DU.
Ers mis Ebrill 2018, Llywodraeth Cymru sydd wedi bod â chyfrifoldeb dros rai o'r trethi sy'n cael eu talu yng Nghymru, gan gynnwys Cyfraddau Treth Incwm newydd Cymru (CTIC) a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2019.
Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn cynnwys:
- Archwilio effeithiau amrywiadau treth incwm is-genedlaethol mewn systemau treth rhyngwladol ar ymddygiad enillwyr incwm isel, canolig ac uchel, yn enwedig ymfudo ac osgoi treth.
- Deall sut y gall enillwyr incwm isel, canolig ac uchel ymateb i amrywiadau mewn cyfradd treth incwm ar gyfer pob band treth rhwng Cymru a Lloegr.
- Deall lefel yr amrywiad mewn cyfraddau treth incwm a allai ysgogi newid ymddygiadol ymysg enillwyr isel, canolig ac uwch yng Nghymru a Lloegr.
- Asesu effaith ariannol ar refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru gyda lefelau amrywiol o amrywiad cyfradd treth.
Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu i'r ymgynghoriad cyhoeddus fynd i dudalennau ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r ymgynghoriad yn para tan 15 Ionawr 2020.