Ymchwiliad newydd i fasnach a mewnfuddsoddi yng Nghymru

Cyhoeddwyd 29/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymchwiliad newydd i fasnach a mewnfuddsoddi yng Nghymru

29 Tachwedd 2013

Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio ymchwiliad newydd i edrych yn fanwl ar effeithiolrwydd strwythurau cefnogi’r sector cyhoeddus o ran cefnogi a hyrwyddo allforion o Gymru a denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor i Gymru.

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i phartneriaid yn Llywodraeth y DU, fel Masnach a Buddsoddi y DU a Chyllid Allforio y DU.

Mae’r cwestiynau y bydd y Pwyllgor yn eu hystyried yn ystod yr ymchwiliad yn cynnwys:

  • Faint o adnoddau ac arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi? A yw’n ddigonol? A yw’n cynrychioli gwerth am arian?

  • Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso effeithiolrwydd ei gweithgareddau masnach a mewnfuddsoddi?

  • A yw dulliau mewnol presennol Llywodraeth Cymru o annog masnach a mewnfuddsoddi yn cynrychioli gwelliant ar y sefydliadau a oedd yn bodoli’n flaenorol i gyflawni’r un swyddogaethau? (h.y. Awdurdod Datblygu Cymru, MasnachCymru Rhyngwladol, ac yn ddiweddarach Busnes Rhyngwladol Cymru)

Yn ôl y bwletin ystadegol diweddaraf ar allforion, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd gwerth allforion o Gymru dros ddwywaith yn uwch rhwng 1999 a’r pedwar chwarter hyd at ddiwedd ail chwarter 2013.

Eto, yn ôl y ffigurau diweddaraf, ar gyfer y pedwar chwarter hyd at ddiwedd ail chwarter 2013, o’i gymharu â’r pedwar chwarter blaenorol:

  • Gostyngodd gwerth allforion o Gymru £0.9 biliwn (6.4%) o’i gymharu â gostyngiad o £3.3 biliwn (1.3%) ar draws y DU.

  • Roedd lleihad yn yr allforion o Gymru i wledydd yr UE (lleihad o 5.6%) ac yn yr allforion i wledydd y tu allan i’r UE (lleihad o 6.9%). Drwy’r DU roedd gostyngiad o 5.5% yn yr allforion i wledydd yr UE tra bo allforion i wledydd y tu allan i’r UE wedi codi 3.0%.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Mae allforion a denu buddsoddiad o dramor yn hanfodol ar gyfer twf yr economi yng Nghymru.

“Rydym am edrych pa mor effeithiol fu dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, sef pa mor gryf yw’r “cynnig” o ran mewnfuddsoddi yng Nghymru, ac i ba raddau y mae gennym “frand” cyson ar gyfer masnach a mewnfuddsoddi yng Nghymru?

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn ymaes hwn i gysylltu â’r Pwyllgor gyda’u teimladau, eu syniadau a’u profiadau.”

Gall unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth naill ai anfon e-bost at Pwyllgor.Menter@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at:

Siân Phipps, Clerc y Pwyllgor Menter a Busnes

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA

Y dyddiad cau ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd yw dydd Gwener 3 Ionawr 2014.