Ymgynghoriad ar y Bil Cartrefi Symudol (Cymru) yn mynd rhagddo

Cyhoeddwyd 28/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Ymgynghoriad ar y Bil Cartrefi Symudol (Cymru) yn mynd rhagddo

Mae ymgynghoriad wedi agor i bobl roi eu barn ar y Bil arfaethedig ynghylch Cartrefi Symudol (Cymru).

Cafodd y Bil, sy’n cael ei gyflwyno gan Peter Black AC, yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ei gynllunio i gryfhau hawliau perchnogion cartrefi symudol ar safleoedd yng Nghymru.

Bwriedir i’r Bil gyflwyno gofyniad trwyddedu i berchnogion safleoedd a gofyniad i bob perchennog safle basio prawf ‘person addas a phriodol’ drwy’r weithdrefn drwyddedu

“Caiff mwyafrif helaeth y safleoedd yng Nghymru eu rhedeg yn dda ac o fewn y gyfraith ond nid dyna’r achos bob tro,” meddai Peter Black AC.

“Mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi canfod bod bron i ddwy ran o dair (62 y cant) o’r preswylwyr cartrefi symudol yng Nghymru a gyfwelwyd, wedi cael problemau ar eu safle yn ystod y pum mlynedd diwethaf gyda bron i draean (29 y cant) wedi cael problemau gyda chynnal a chadw, diogelwch neu safonau diogelwch ar y safle.

“Felly mae’n bwysig bod dulliau diogelwch ar gael i berchnogion cartrefi symudol allu byw yn eu cartrefi, eu gwerthu neu eu trosglwyddo gyda hyder, a dyna’r bwriad gyda’r Bil hwn.

“Byddwn yn annog unrhyw un, pa un ai a ydych yn berchennog cartref symudol, yn berchennog safle neu’n rhywun sydd â diddordeb yn y maes hwn i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn a helpu i lunio deddf newydd ar gyfer Cymru.”

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yw 20 Gorffennaf 2012 a chaiff y Bil ei gyflwyno’n swyddogol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Hydref eleni.

O hynny, bydd y Bil yn mynd drwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad cyn i Aelodau’r Cynulliad benderfynu a gaiff fod yn Ddeddf, neu’n gyfraith.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu tystiolaeth fel rhan o’r ymgynghoriad naill ai anfon e –bost at: legislationoffice@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

Bil Cartrefi Symudol (Cymru) Arfaethedig