Ymgyrch ymwybyddiaeth Pleidleisiwch 2011 yn cyflymu wrth i’r Gorchymyn ar y Refferendwm gael ei basio
10 Tachwedd 2010
Heddiw (9 Tach) cytunodd Aelodau’r Cynulliad yn unfrydol i’r Gorchymyn sy’n sefydlu’r refferendwm ar bwerau deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol.
Mae’n pennu dyddiad y bleidlais ar gyfer 3 Mawrth 2011 a hefyd y cwestiwn y bydd pleidleiswyr yn ei weld ar y papur pleidleisio.
Yn ogystal, mae’r Gorchymyn yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer cynnal y bleidlais. Mae rheolau’r ymgyrch, gan gynnwys y symiau y caniateir eu gwario gan yr ymgyrch ‘Ie’ a’r ymgyrch ‘Na’ benodedig (dros ac yn erbyn pwerau ychwanegol i’r Cynulliad Cenedlaethol), ac eraill y caniateir iddynt gymryd rhan, yn cael eu rheoli gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. (Saesneg un unig).
Yn ogystal, mae rheolau penodol yn ymwneud ag ymgyrchu yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod yn arwain at y refferendwm wedi eu nodi yn y Ddeddf.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n parhau gydag ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus er mwyn rhoi gwybodaeth wrthrychol ac amhleidiol i etholwyr Cymru am y refferendwm hwn ynghyd â’r ddwy bleidlais arall a fydd yn eu hwynebu yn y blwch pleidleisio y flwyddyn nesaf.
Mae 2011 yn flwyddyn:
Pan gynhelir refferendwm ar 3 Mawrth i ofyn a ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael mwy o bwerau i ddeddfu.
Ar 5 Mai bydd etholiad y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu pwy ddylai ein cynrychioli yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad, gofynnir i ni a ddylem ethol ein Haelodau Seneddol yn San Steffan drwy system bleidleisio fwy cyfrannol.
Dywedodd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad, “Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn bwysig iawn i bob un ohonom.”
“Yn ogystal â dewis pwy sy’n ein cynrychioli yn y Senedd, gofynnir i ni hefyd a ddylai’r cynrychiolwyr etholedig hynny gael mwy o bwerau i ddeddfu dros Gymru.
“Dyna pam rydym am ymweld â phob rhan o Gymru ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod pobl Cymru’n cael cymaint o wybodaeth ddiduedd â phosibl ar gyfer dewis.
Mae Bws Allgymorth y Cynulliad eisoes ar daith yn y 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Bydd y Llywydd hefyd yn mynd i dri digwyddiad allgymorth allweddol yn y gogledd, y canolbarth a’r de i ledaenu’r neges am “fynd allan a phleidleisio”.
Bydd y Cynulliad hefyd yn gweithio’n agos gyda chyrff gwirfoddol a rhanddeiliaid eraill, drwy gyfrwng sesiynau yn y Pierhead ym Mae Caerdydd, er mwyn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl.
Cafodd ail Orchymyn hefyd ei gytuno y prynhawn yma.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diweddaru Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dyma’r rhan o’r Ddeddf sy’n nodi’n fanwl y pynciau y bydd gan y Cynulliad bwerau i ddeddfu arnynt os mai ‘Ie’ fydd y bleidlais . Mae angen diweddaru’r Atodlen er mwyn cymryd i ystyriaeth ddatblygiadau ym mhwerau presennol y Cynulliad ers 2006.
Nawr, rhaid i’r ddau Orchymyn gael eu cytuno gan ddau Dy’r Senedd yn San Steffan cyn y gall y bleidlais ddigwydd ar y dyddiad a amlinellwyd uchod.
Os bydd cytundeb yn y ddwy siambr, cynhelir y refferendwm ar 3 Mawrth 2011. Bydd “cyfnod y refferendwm”, pan fydd y cyfyngiadau ar lefel y gwariant ar yr ymgyrch yn gymwys, yn dechrau pan gaiff Gorchymyn y Refferendwm ei gwneud yn ffurfiol. Bydd rheolau arbennig yn ymwneud ag ymgyrchu yn gymwys i’r “cyfnod perthnasol”, sef y cyfnod o 28 diwrnod yn arwain at y refferendwm, a fydd yn dechrau yn gynnar ym mis Chwefror.
Am ragor o fanylion am y refferendwm, ewch i: Cwestiwn r Refferndwm.