Y Brenin a’r Frenhines yn ymweld â’r Senedd i ddathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu

Cyhoeddwyd 08/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/07/2024   |   Amser darllen munudau

Bydd Eu Mawrhydi Y Brenin a’r Frenhines yn ymweld â’r Senedd ddydd Iau 11 Gorffennaf 2024 i nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.

Mae’r ymweliad yn cyd-daro â phasio cyfraith newydd i Gymru a fydd yn cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau ac yn cyflwyno system bleidleisio newydd yn etholiad 2026 i sicrhau bod yr Aelodau’n adlewyrchu’n well y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

I nodi arwyddocâd y garreg filltir hon i Gymru a’i phobl, bydd Y Brenin yn annerch Aelodau o’r Senedd yn ystod seremoni yn y Siambr drafod.

Bydd anerchiadau hefyd gan Lywydd y Senedd, Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS; Prif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Vaughan Gething AS; ac Arweinwyr y Pleidiau, sef Andrew RT Davies AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, a Rhun ap Iorwerth AS ar ran Plaid Cymru.

Bydd araith y Brenin, ac anerchiadau y Llywydd, y Prif Weinidog ac arweinwyr y pleidiau, yn cael eu dangos yn fyw ar Senedd.tv

Mae croeso i bobl ymgynnull y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd i gyfarch Y Brenin a’r Frenhines wrth iddynt gyrraedd a gadael. 

Pobl sy’n gwneud gwahaniaeth

Yn ystod eu hymweliad â’r Senedd, bydd Y Brenin a’r Frenhines yn cwrdd â phobl o’r gymuned sydd wedi cyfrannu at waith y Senedd, gan gynnwys Neil Evans, y deisebydd a ddechreuodd ymgyrch lwyddiannus ar gyfer codi tâl am fagiau siopa plastig yn 2007.

Ymhlith y gwesteion hefyd mae Sarra Ibrahim, sydd wedi rhoi tystiolaeth werthfawr i bwyllgorau’r Senedd ar amryw faterion yn ymwneud â gofal plant, trais ar sail rhywedd ac anghenion menywod mudol; yr ymgyrchydd canser Claire O'Shea, a rannodd ei stori i fynnu gwell triniaethau a chanlyniadau canser gynaecolegol yng Nghymru; ac Angel Ezeadum, cyn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a ymgyrchodd yn llwyddiannus i wneud addysgu Hanes Pobl Dduon yn orfodol yn ysgolion Cymru.

Bydd tusw o flodau yn cael ei gyflwyno i’r Frenhines gan Celyn Matthews-Williams, sy’n 10 oed ac yn dod o Lanelli, un o Bencampwyr Cymunedol Covid y Senedd. Yn ystod y pandemig, cododd arian ar gyfer banciau bwyd ac Ambiwlans Awyr Cymru, a daeth â llawenydd i’w chymuned drwy dyfu blodau haul a sefydlu cyfnewidfa lyfrau ar wal ei gardd. 

Bydd Eu Mawrhydi hefyd yn cwrdd ag aelodau o staff y Senedd sydd wedi gweithio yma ers 25 mlynedd, neu sydd eu hunain yn 25 oed, a chynrychiolwyr Senedd Ieuenctid Cymru.

Dathlu'r dyfodol

Yn ystod y seremoni yn y Siambr, bydd Eu Mawrhydi yn clywed dwy gerdd a ysgrifennwyd gan Aron Pritchard aelod o staff y Senedd.

Ysgrifennwyd y gerdd gyntaf - Y Cynulliad Cymreig - pan oedd Aron yn ddisgybl ysgol, i nodi agoriad swyddogol cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol fel yr oedd ar y pryd ym 1999. Gwaith newydd yw'r ail gerdd - Senedd-dy - a gyfansoddwyd gan Aron i ddathlu 25 mlynedd o’r Senedd.

Bydd Côr Amdani Blant Cymru yn perfformio ar gyfer Eu Mawrhydi. Côr o blant ysgolion cynradd o bob cwr o Gymru yw hwn, a ffurfiwyd fel rhan o brosiect i gyflwyno gweithdai cerdd i bobl ifanc o bob cefndir. Bydd ensemble o ysgol gynradd leol, sef Ysgol Treganna, a Band Dur Pantasia hefyd yn perfformio.