Ymwelwyr â Bws y Cynulliad Cenedlaethol yn Eisteddfod Llangollen
Mae cannoedd o ymwelwyr eisoes wedi dod draw i fws y Cynulliad Cenedlaethol yn Eisteddfod Llangollen eleni. Mae llu o weithgareddau i bobl eu gwneud ar y bws, fel:
Cyfrifiaduron fel y gall ymwelwyr ddefnyddio'r wefan a chymryd rhan mewn ymgynghoriadau ar-lein a gwylio Senedd TV;
Sgrin plasma yn dangos amrywiaeth o fideos yn tynnu sylw at y partneriaethau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhan ohonynt;
Gweithgareddau i blant i'w hannog i ddysgu am y Cynulliad ac ennyn diddordeb yn ein gwaith. Yn benodol eleni, rydym yn hyrwyddo pleidleisio a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd pleidleisio;
Gweithgareddau murlun addysg, gan gynnwys dod o hyd i'r meysydd;
Gweithgareddau pleidleisio yn defnyddio blwch pleidleisio mawr;
Cyfleusterau ar gyfer mynegi barn, gan gynnwys bwth fideo;
Gweithdai ar bleidleisio.
Mae'r digwyddiad eleni wedi bod yn llwyddiant mawr, gyda blas rhyngwladol iddo. Mae cannoedd o ymwelwyr eisoes wedi dod draw i fws y Cynulliad Cenedlaethol yn Eistddfod Llangollen eleni - dyma gartrefi rhyngwladol rhai o'r ymwelwyr.
Bydd y bws yn aros yn yr Eisteddfod tan ddydd Sadwrn. Wedyn, bydd yn teithio draw i Sioe Aberteifi ar 28 Gorffennaf.
Os ydych yn yr ardal, dewch draw i'n gweld.
Er mwyn gweld ble bydd y bws yn ystod yr haf, ewch i dudalen y bws ar wefan y Cynulliad