Yr hyn sy’n troi cymdeithas yn gymuned – Archesgob Caergaint i annerch y Senedd

Cyhoeddwyd 22/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Yr hyn sy’n troi cymdeithas yn gymuned – Archesgob Caergaint i annerch y Senedd

22 Mawrth 2012

Bydd Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint, yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Llun 26 Mawrth.

Fel rhan o’i ymweliad, bydd yn annerch cynulleidfa a fydd yn cynnwys aelodau’r cyhoedd a gwesteion pwysig.

Bydd yn mynegi barn ynghylch y ffactorau hynny sy’n uno a chryfhau cymunedau.

Yn dilyn yr anerchiad, a fydd yn dechrau am 13.00, cynhelir sesiwn holi ac ateb gyda’r Archesgob, a gaiff ei chadeirio gan Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru.

Cyn yr anerchiad a’r sesiwn holi ac ateb, bydd Dr Williams yn arsylwi dadl a gynhelir yn Siambr Hywel rhwng pobl ifanc o bob rhan o Gymru. Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu ar y cyd gyda CEWC Cymru, elusen addysgol sy’n helpu pobl ifanc i ddatblygu fel dinasyddion gweithgar o Gymru a’r byd.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae’n bwysig ein bod yn gallu uno’r cyhoedd yng Nghymru gyda ffigyrau cyhoeddus allweddol i drafod materion pwysig sy’n wynebu ein cymunedau, ac i sicrhau bod y trafodaethau hynny’n bwydo i mewn i’r broses o wneud penderfyniadau yma yn y Cynulliad.

“Mae’r Archesgob yn ffigwr allweddol ym mywyd cyhoeddus Cymru a’r Deyrnas Unedig, a bydd yn anrhydedd i mi ei groesawu i’r Senedd.”