Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig i ymweld ag ucheldiroedd Cymru
13 Tachwedd 2009
Bydd Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol yn ymweld â Thregaron fel rhan o’i ymchwiliad i ddyfodol ucheldiroedd Cymru.
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i gyfarfod ffurfiol yn Neuadd Goffa Tregaron ar 23 Tachwedd. Bydd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth gan undebau’r ffermwyr, sef Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru) ac Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Parciau Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Mynyddoedd Cambria i drafod yr hyn y maent yn ei ystyried fel prif heriau a phrif gyfleoedd ucheldiroedd Cymru.
Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Awst eleni ac mae’n ymchwilio i ddyfodol economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal ac yn ystyried a allai fod yn gymwys am gefnogaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd fel ‘ardal llai ffafriol’. Bydd yr is-bwyllgor hefyd yn cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru i warchod a datblygu’r ucheldiroedd.
Dywedodd Alun Davies, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig, “Mae ucheldiroedd Cymru yn llefydd heriol a phwysig am nifer o resymau, gan gynnwys ffermio, coedwigaeth, gweithgareddau hamdden, cadwraeth bywyd gwyllt a rheoli dwr. Mae’r ucheldiroedd hefyd yn dod yn fwyfwy pwysig yng nghyd-destun newid hinsawdd a materion sy’n ymwneud ag ynni.”
Bydd aelodau’r is-bwyllgor yn ymweld â gwarchodfa natur Cors Caron cyn y cyfarfod er mwyn gweld â’u llygaid eu hunain ei gwerth amgylcheddol ac ecolegol. Cafodd Cors Caron ei ffurfio dros 12 mil o flynyddoedd yn ôl ac mae’n ymestyn dros 816 erw. Yn ôl y sôn, mae’n un o’r enghreifftiau gorau o gyforgors yn y Deyrnas Unedig ac mae’n gartref i ystod eang o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys y barcud coch, yr aderyn ysglyfaethus prin.
Dywedodd Mr Davies, “Rwyf i a fy nghyd-aelodau yn edrych ymlaen at ymweld â Chors Caron. Wrth gynnal ymchwiliad i ardal mor arbennig, mae’n bwysig ein bod yn treulio amser, nid yn unig yn siarad â rhanddeiliaid, ond hefyd yn gweld yr hyn sydd yn y fantol drosom ein hunain.”
Mae’r Pwyllgor eisoes wedi cael tystiolaeth ysgrifenedig gan, ymysg eraill, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad a’r RSPB.
Dylai’r ymchwiliad ddod i ben flwyddyn nesaf.
Nodiadau i olygyddion:
Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd am gadw sedd i wylio’r trafodion yn Neuadd Goffa Tregaron gysylltu â ni:
-drwy ffonio 0845 010 5500;
-drwy ddefnyddio ffôn testun i ffonio 0845 010 5678
-drwy anfon e-bost i archebu@cymru.gsi.gov.uk
-drwy anfon llythyr i: Gwasanaeth Archebu’r Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc y Tywysog, Rhodfa'r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8PL.