“Yr ofn cyson sydd gen i yw mynd yn ddall” – oedi mewn triniaeth yn peryglu golwg miloedd o bobl

Cyhoeddwyd 28/11/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/11/2025

Mae mwy nag 80,000 o gleifion sydd yn y perygl mwyaf o golli eu golwg yn barhaol yn aros yn rhy hir am driniaeth achub golwg, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.

Offthalmoleg yw’r arbenigedd prysuraf i gleifion allanol yng Nghymru, sy’n cyfrif am un o bob wyth claf ar restr aros y GIG, ac mae disgwyl i’r galw gynyddu 40% dros yr 20 mlynedd nesaf.

Dim ond 1.97 o offthalmolegwyr ymgynghorol sydd i bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru, sy’n llawer is na’r 3 a argymhellir. Nid oes gan Gymru system cofnodi ac atgyfeirio cleifion electronig sy’n gweithredu’n llawn, ac mae llawer o gyfleusterau gofal llygaid yn hen ac yn anniogel. Yn ôl y sôn, mae toeau sy’n gollwng ac offer sydd wedi torri yn achosi oedi mewn triniaeth hefyd.

Mae’r Pwyllgor yn rhybuddio bod mwy o bobl mewn perygl o golli eu golwg yn ddiangen, heb weithredu ar frys a buddsoddiad mewn newidiadau. Yn ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bwerus gan gleifion am effaith andwyol oedi – o golli swyddi ac annibyniaeth i argyfyngau iechyd meddwl sy’n mynd o ddrwg i waeth.

Effaith emosiynol ac ymarferol

Mae aros yn hir am driniaeth yn cael effaith emosiynol ac ymarferol ar y claf. Gall oedi arwain at golli annibyniaeth, gan gynnwys y gallu i yrru, darllen, neu adnabod wynebau a all, yn ei dro, arwain at ynysu cymdeithasol a heriau iechyd meddwl.

Disgrifiodd un claf, sydd â dirywiad macwlaidd, y pryder cyson a achosir gan driniaethau oedi: “Yr ofn cyson sydd gennyf, yr wyf yn byw gydag ef bob dydd, yw mynd yn ddall. Mae'n debyg y byddaf yn cael fy nghondemnio i golli fy ngolwg trwy ddiffyg gweithredu. Rwy'n teimlo bod amser yn wir yn hanfodol ar gyfer fy ngolwg a'i gadw.”

Ymhlith tystiolaeth arall a glywodd y Pwyllgor roedd claf a gollodd ei swydd oherwydd na allai roi amserlen i'w chyflogwyr ar gyfer triniaeth, a tystiolaeth arall gan fam ifanc sydd, ar ôl cael gwybod y byddai’n mynd yn ddall, wedi gadael yr ysbyty heb unrhyw gefnogaeth ac wedi mynd i argyfwng. Disgrifiodd cleifion achosion o deithio hyd at 150 milltir am driniaeth, yn aml heb gymorth trafnidiaeth. Soniodd eraill am golli annibyniaeth, methu gyrru, ac wynebu ynysu cymdeithasol.

Glasbrint ar gyfer gwell gwasanaeth

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i weithredu’r Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg – a ddisgrifir fel y glasbrint diwygio. Cyhoeddwyd y strategaeth yn 2024, ac mae’n nodi sut y dylid trawsnewid gwasanaethau i fynd i’r afael ag aros hir a gwella’r profiad i gleifion. Mae’n cynnwys diwygio i wneud y mwyaf o adnoddau’r gweithlu; rhwydweithiau clinigol i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at ofal; a model i ddarparu gwasanaethau ar draws ffiniau’r byrddau iechyd.  

Ond araf fu’r cynnydd, ac mae’r Pwyllgor yn rhybuddio, heb weithredu brys, mae mwy o bobl mewn perygl o golli eu golwg yn ddiangen.

Dywedodd Peter Fox AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd:

“Yn hanner yr achosion, gellid osgoi colli golwg drwy ei ganfod yn gynnar a’i drin yn amserol. Ond mae miloedd o bobl yn byw gyda’r ofn o golli eu golwg oherwydd nad ydyn nhw’n cael eu gweld ar amser. Rydyn ni mor ddiolchgar i’r cleifion a rannodd eu straeon gyda ni – mae rhaid i’w profiadau sbarduno newid brys.

“Mae’r glasbrint yn bodoli – nawr mae rhaid ei roi ar waith. Mae hyn yn golygu atebolrwydd clir, buddsoddiad priodol, a ffocws di-baid ar ddiogelwch a phrofiad cleifion. Heb hyn, bydd trawsnewid gwasanaethau gofal llygaid yn parhau i fod yn anghyflawn.

“Mae hyn yn ymwneud â diogelu golwg pobl – ac ansawdd eu bywyd. Mae rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr.”

Mwy am y stori yma 

Darllenwch am waith y Pwyllgor yn edrych ar wasanaethau Offthalmoleg