- Diweddarwyd ddiwethaf: Mai 2021
- Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
- Cyswllt: Clerc i'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
- Ffeiliau PDF
Mae'r dudalen hon yn rhan o gyfres sy'n cynnwys y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd a'r holl Reolau a Chanllawiau Cysylltiedig.
chevron_rightCyflwyniad a'r fframwaith statudol
1. Drafftiwyd y cod hwn gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn unol ag adran 36(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 1.10.
2. Mae adran 36(6) yn nodi bod yn rhaid i'r Rheolau Sefydlog gynnwys darpariaeth ynglŷn â gwahanol rolau a chyfrifoldebau Aelodau etholaeth ac Aelodau rhanbarthol y Senedd (neu ddarpariaeth ar gyfer gwneud cod neu brotocol ynghylch hynny). Mae hefyd yn nodi'r canlynol – (a) Ni ddylai Aelodau etholaeth eu disgrifio'u hunain mewn ffordd sy'n awgrymu eu bod yn Aelodau rhanbarthol yn y Senedd, ac (b) Ni ddylai Aelodau rhanbarthol y Senedd eu disgrifio'u hunain mewn ffordd sy'n awgrymu eu bod yn Aelodau etholaeth yn y Senedd.
3. Yn unol â hynny, mae Rheol Sefydlog 1.10 yn nodi bod yn rhaid i'r Senedd wneud cod neu brotocol, i'w ddrafftio gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn unol ag adran 36(6) o'r Ddeddf, ynglŷn â gwahanol rolau a chyfrifoldebau Aelodau etholaeth ac Aelodau rhanbarthol. Rhaid i'r cod neu'r protocol gynnwys darpariaeth yn unol â phum egwyddor allweddol benodol (Rheol Sefydlog 1.10 (i)-(v)) a rhaid iddo gynnwys darpariaeth ar gyfer naw mater a nodir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 1.
4. Rhaid darllen y Cod felly yng ngoleuni'r pum egwyddor allweddol a ganlyn:
(i) mae pob Aelod o dan ddyletswydd i fod yn hygyrch i bobl yr ardaloedd y maent wedi'u hethol i'w gwasanaethu ac i gynrychioli eu buddiannau yn gydwybodol;
(ii) wrth iddynt droi at eu dewis Aelod, dymuniadau'r etholwyr a/neu fuddiannau'r etholaeth neu'r ardal sydd o'r pwys pennaf;
(iii) mae gan bob Aelod statws cyfartal;
(iv) ni ddylai Aelodau gamliwio ar ba sail y maent wedi'u hethol na pha ardal y maent yn ei gwasanaethu; a
(v) ni ddylai Aelod ymdrin ag achos etholaeth neu fater etholaeth nad yw o fewn ei etholaeth neu ei ranbarth (yn ôl fel y digwydd), heblaw drwy gytuno ymlaen llaw.
5. Yn unol â'r Atodiad i Reol Sefydlog 1 y Cod yn gwneud darpariaeth mewn naw maes:
Disgrifio'r Aelodau
"Darpariaeth i'r Aelodau rhanbarthol a'r Aelodau etholaeth eu disgrifio'u hunain yn gywir ac ar gyfer gofynion ynglŷn â defnyddio adnoddau'r Senedd, er enghraifft, deunyddiau swyddfa."
6. Ni ddylai Aelodau gamliwio ar ba sail y maent wedi'u hethol neu'r ardal maent yn ei gwasanaethu.
7. Rhaid i Aelodau rhanbarthol ac Aelodau etholaeth eu disgrifio'u hunain yn gywir fel nad ydynt yn drysu'r unigolion y maent yn ymdrin â hwy.
8. Dylai Aelodau etholaeth eu disgrifio'u hunain bob tro fel: "[Enw], Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth [x]", neu "[Enw], yr Aelod o'r Senedd dros etholaeth [x]."
9. Dylai Aelodau rhanbarthol disgrifio eu hunain bob tro fel: "[Enw], Aelod o Senedd Cymru dros ranbarth [y]" neu "[Enw], yr Aelod o'r Senedd dros ranbarth [y]."
10. Ni ddylai Aelodau rhanbarthol eu disgrifio'u hunain fel Aelodau "lleol" na datgan bod ganddynt ddiddordeb penodol mewn un rhan yn unig o'r rhanbarth dan sylw.
11. Ni ddylai Aelodau etholaeth eu disgrifio'u hunain fel yr unig Aelodau dros ardal neu etholaeth benodol.
12. Dylai Aelodau roi sylw i ganllawiau'r Llywydd ynglŷn â defnyddio adnoddau'r Senedd, fel deunyddiau swyddfa, gan gynnwys y canllawiau a gyhoeddir sy'n berthnasol i gyfnod cyn etholiad.
Ymdrin â Materion Etholaeth/Rhanbarth
"Darpariaeth i'r Aelodau allu ymgymryd â mater sy'n effeithio ar yr etholaeth neu'r rhanbarth y'u hetholwyd drosti gan sicrhau moesgarwch ar faterion sy'n effeithio ar fwy nag un etholaeth."
13. Mae gan bob Aelod Senedd yr hawl i ddangos diddordeb mewn mater sy'n effeithio ar yr etholaeth neu'r rhanbarth y'u hetholwyd drosti neu drosto, neu i ymgymryd â mater o'r fath. Mae'n bosibl y bydd yr Aelodau am gysylltu â'i gilydd, er cwrteisi, os ydynt yn ymwneud neu'n bwriadu ymwneud â mater lleol pwysig sy'n effeithio ar fwy nag un etholaeth neu ranbarth.
Achosion Etholwyr Unigol
"Darpariaeth i ddiogelu hawl etholwr i droi at ei Aelod etholaeth, a / neu unrhyw un o'r pedwar Aelod rhanbarthol a etholwyd yn ei ranbarth."
14. Yr egwyddor sylfaenol yw bod dymuniadau'r etholwr o'r pwys mwyaf. Cynrychiolir pob etholwr gan un Aelod etholaeth a phedwar Aelod rhanbarthol. Yr etholwr sydd i benderfynu a yw am gysylltu â'i Aelod etholaeth ynteu ag unrhyw un o'r Aelodau rhanbarthol a etholwyd a gofyn iddynt ymgymryd ag achos. Gall etholwyr gysylltu ag unrhyw un o'r Aelodau o'r Senedd (etholaeth neu ranbarthol) a etholwyd i'w cynrychioli gan fod gan bob Aelod statws cyfartal yn ffurfiol ac yn gyfreithiol. Os bydd Aelod yn cytuno i ymgymryd ag achos, rhaid iddo ef neu hi ystyried dymuniadau'r etholwr wrth benderfynu ar y ffordd orau o fynd â'r achos yn ei flaen.
15. Disgwylir i bob Aelod ymgymryd ag unrhyw achos a gyflwynir iddynt, er y cydnabyddir y gallai fod gan Aelod reswm teg dros wrthod achos gan etholwr - er enghraifft, os yw'r achos yn gofyn am gamau gweithredu a fyddai'n arwain at wrthdaro buddiannau mewn perthynas ag achos sydd eisoes ar y gweill neu os yw'n mynd yn erbyn credoau gwleidyddol yr Aelod. Os felly, fel arfer, byddai disgwyl i'r Aelod hysbysu'r etholwr na fydd yn ymgymryd â'r achos.
16. Mewn amgylchiadau arbennig iawn, efallai y bydd yn addas i Aelod ymgymryd â mater ar ran unigolyn nad yw'n byw yn ei etholaeth neu ei ranbarth ei hun. Cyn gwneud hynny, rhaid i'r Aelod fod yn fodlon bod amgylchiadau'n bodoli sy'n ei gwneud yn wirioneddol anymarferol neu'n anaddas i un o'r Aelodau sy'n cynrychioli'r unigolyn dan sylw ymgymryd â'r mater. Lle bydd materion o'r fath yn codi, rhaid i'r Aelod sy'n cynnig ymgymryd â'r mater ar ran unigolyn o'r fath hysbysu'r Aelodau sy'n cynrychioli'r unigolyn hwnnw, rhoi eglurhad a chael cytundeb yr Aelodau hynny. Oherwydd mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y bydd yn rhaid cymryd camau o'r fath, mae'n bosibl y bydd cyfyngiadau o ran y wybodaeth y byddai'n addas ei rhoi i egluro'r sefyllfa. Ni all Aelod ymgymryd â mater o'r fath heb gytundeb yr Aelodau sy'n cynrychioli'r unigolyn dan sylw. Ni ddylai Aelodau wrthod rhoi caniatâd ar sail afresymol.
Codi Materion gydag Aelod o'r Llywodraeth
"Darpariaeth i sicrhau bod gan unrhyw Aelod hawl i godi mater gyda'r aelod perthnasol o'r Llywodraeth ar ran etholwr yn yr ardal (yr etholaeth neu'r rhanbarth) y'i hetholwyd drosti."
17. Mae gan unrhyw Aelod hawl i godi mater gyda'r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ar ran etholwr yn yr ardal yr etholwyd yr Aelod drosti.
18. Atgoffir Aelodau ynghylch gofynion Deddf Diogelu Data 1998 wrth brosesu data personol a data personol sensitif. (Mae rheolau arbennig o lym sy'n gymwys o ran prosesu data personol sensitif.) Ni ddylai Aelodau drosglwyddo data personol neu ddata personol sensitif ynghylch etholwr heb ganiatâd yr etholwr. Wrth gyfathrebu gyda Gweinidogion neu asiantaethau eraill, rhaid i Aelodau sicrhau bod unrhyw ohebiaeth gychwynnol, yn ysgrifenedig neu ar lafar, yn ei gwneud yn glir ar ba sail y trosglwyddir unrhyw ddata personol neu ddata personol sensitif am etholwr.
Aelodau yn Gweithredu yn eu Hardaloedd
"Darpariaeth yn adlewyrchu'r disgwyliad y bydd yr Aelodau yn gweithio ledled yr ardal (yr etholaeth neu'r rhanbarth) y'i hetholwyd drosti."
19. Disgwylir i Aelodau weithio ledled yr ardal (yr etholaeth neu'r rhanbarth) y'i hetholwyd drosti.
Ymweliadau Ysgolion
"Darpariaeth ar gyfer hysbysu'r Aelodau ynglŷn ag ymweliadau swyddogol ysgolion â'r Senedd a drefnir gan y Comisiwn."
20. Pan wahoddir ysgolion a cholegau i ymweld â'r Senedd gan y Gwasanaeth Cyfathrebu Allanol, bydd y gwasanaeth hwnnw'n hysbysu'r Aelodau (etholaeth a rhanbarthol) perthnasol. Yr Aelodau sydd i benderfynu i ba raddau y byddant yn cymryd rhan yn yr ymweliadau.
Sylwer: Nid yw'r darpariaethau hyn yn cynnwys ymweliadau a drefnir gan Aelodau unigol.
Ymholiadau ffôn
"Darpariaeth i lywio sut yr ymdrinnir ag ymholiadau ffôn i switsfwrdd y Senedd gan aelodau o'r cyhoedd sy'n ceisio cysylltu ag Aelod."
21. Bydd aelodau o'r cyhoedd sy'n galw'r switsfwrdd i siarad ag Aelod (etholaeth neu ranbarthol) penodol yn cael eu cysylltu â'r Aelod hwnnw'n unig. Os na fydd yr Aelod ar gael, rhoddir dewis i'r unigolyn sy'n galw i adael neges. Os bydd etholwr yn cysylltu ag Aelod o'u dewis, dymuniadau'r etholwr sydd o'r pwys mwyaf. Os na fydd aelodau o'r cyhoedd yn gwybod enw'r Aelod Senedd o'u dewis, trosglwyddir yr alwad i Linell Wybodaeth y Senedd. Bydd y Llinell Wybodaeth yn nodi cod post y galwr er mwyn canfod yr etholaeth dan sylw, ac yna'n rhoi enwau'r Aelod etholaeth a'r Aelodau rhanbarthol i'r galwr. Bydd y galwr yna'n penderfynu â pha Aelod y mae'n dymuno siarad.
Staff yr Aelodau
"Darpariaeth y dylai'r Aelodau sicrhau bod y staff sy'n gweithio iddynt, yn y Senedd ac yn lleol, gan gynnwys eraill sy'n gweithio ar eu rhan gydag etholwyr, yn ymwybodol o Reol Sefydlog 1.10 ac unrhyw god neu brotocol a lunnir o ganlyniad iddi a'u bod yn gweithredu yn unol â hwy."
22. Dylai Aelodau sicrhau bod y staff sy'n gweithio iddynt, yn y Senedd ac yn lleol, gan gynnwys pobl eraill sy'n gweithio ar eu rhan gydag etholwyr, yn ymwybodol o Reol Sefydlog 1.10 a'r cod hwn, ac yn gweithredu yn unol â'r rheini.
Gorfodi
"Darpariaeth i unrhyw gŵyn yn erbyn Aelod mewn perthynas â'r cod neu'r protocol gael ei chyfeirio at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad."
23. Dylid gwneud unrhyw gŵyn yn erbyn Aelod mewn perthynas â'r Cod i'r Comisiynydd Safonau yn unol â gweithdrefnau Senedd Cymru ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd (y Weithdrefn Gwyno). Ymdrinnir â'r gŵyn yn unol â'r Weithdrefn Gwyno. Os bydd y Comisiynydd yn credu bod y gŵyn yn dderbyniol, bydd yn cynnal Archwiliad Ffurfiol i'r gŵyn ac yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.