Sut all pobl cymru lywio eu dyfodol?

Fis Gorffennaf, bydd 60 o bobl yn cymryd rhan mewn Cynulliad Dinasyddion.

I wneud argymhellion ar sut y gall pawb yng Nghymru lunio eu dyfodol drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gweithio gyda Involve a’r Sefydliad Sortition i'w helpu i ddarparu'r cynulliad dinasyddion.

Cynulliad Dinasyddion

Pwy fydd yn rhan o’r cynulliad dinasyddion?

Bydd y Cynulliad Dinasyddion yn cynnwys 60 o bobl 16 oed a hŷn, sy’n cynrychioli poblogaeth Cymru.

Gwahoddwyd cyfranogwyr o 10,000 o gyfeiriadau a ddewiswyd ar hap ledled Cymru.

Llunio’r Dyfodol

Group of visitors in the foyer

Ar beth fydd y cynulliad dinasyddion yn canolbwyntio?

Y cwestiwn y bydd y cynulliad dinasyddion hwn yn ymdrin ag ef yw 'Sut all pobl Cymru lywio eu dyfodol?'

Maent yn cael y cyfle i glywed tystiolaeth arbenigol ac i edrych ar enghreifftiau o wledydd eraill o ran sut y gall pobl gael rhagor o lais yn y broses ddemocrataidd.

Byddant yn ymchwilio ac yn awgrymu ffyrdd newydd a gwell y gallai dinasyddion wneud hyn drwy waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canlyniadau

Beth fydd y canlyniad?

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi casgliadau’r Cynulliad Dinasyddion.

Bydd yn defnyddio casgliadau’r Cynulliad Dinasyddion i lywio ei waith.

Bydd Comisiwn y Cynulliad hefyd yn ymateb i’r argymhellion mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir ym mis Medi 2019.


Adroddiad y Cynulliad Dinasyddion

Sut gall pobl Cymru helpu i lunio eu dyfodol?

Beth am weld canfyddiadau a chasgliadau’r Cynulliad Dinasyddion.

 


Cwestiynau cyffredin

Beth yw cynulliad dinasyddion?

Mae cynulliad dinasyddion yn grŵp o bobl sy'n cael eu dwyn ynghyd i drafod mater neu faterion, a dod i gasgliad am yr hyn y credant ddylai ddigwydd.

Mae'r bobl sy'n cymryd rhan yn cael eu dewis fel eu bod yn adlewyrchu'r boblogaeth ehangach. Mae hyn o ran demograffeg (e.e. oedran, rhyw, ethnigrwydd, dosbarth cymdeithasol) ac weithiau o ran agweddau perthnasol (e.e. eu safbwyntiau presennol ar y pwnc y mae’r cynulliad dinasyddion yn ei ystyried).

Mae cynulliadau dinasyddion yn rhoi amser a chyfle i aelodau'r cyhoedd ddysgu am bwnc. Mae cyfranogwyr yn clywed gan amrywiaeth eang o arbenigwyr ac yn eu holi. Gall yr arbenigwyr gynnwys, er enghraifft, academyddion, ymchwilwyr, pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o'r mater ac ymgyrchwyr. Drwy'r broses hon mae cyfranogwyr yn clywed tystiolaeth gytbwys ar y pwnc. Yna, maent yn trafod yr hyn maen nhw wedi'i glywed ymhlith ei gilydd ac yn penderfynu beth yw eu safbwynt.

Mae cynulliadau dinasyddion fel arfer yn para am un penwythnos neu fwy. Mae hwyluswyr annibynnol yn bresennol bob amser i helpu i sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed. Caiff casgliadau'r cynulliad dinasyddion eu hysgrifennu mewn adroddiad a gyflwynir i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

A fu cynulliadau dinasyddion yn y gorffennol?

Cynhaliwyd y cynulliad dinasyddion cyntaf yng Nghanada yn 2004. Sefydlwyd ef gan lywodraeth British Columbia i drafod a ddylid newid system bleidleisio British Columbia. Argymhellodd y cynulliad dinasyddion system newydd, a rhoddwyd y mater gerbron y pleidleiswyr mewn refferendwm.

Mae cynulliadau dinasyddion eraill wedi’u cynnal mewn mannau eraill yng Nghanada, yn ogystal ag yn Awstralia, yr Unol Daleithiau, Iwerddon, yr Iseldiroedd a Gwlad Pwyl, ymhlith gwledydd eraill. Edrychodd y cynulliad dinasyddion diweddar yn Iwerddon ar faterion gan gynnwys erthyliad, priodas gyfartal a chyfleoedd a heriau poblogaeth sy'n heneiddio.

Yn y DU, mae cynulliadau dinasyddion wedi edrych ar faterion sy’n cynnwys:

Sut y dylid ariannu gofal cymdeithasol hirdymor i oedolion yn Lloegr;

  • Dyfodol gofal cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon;
  • Pa bolisi masnach a mudo ddylai fod ar ôl Brexit;
  • Datganoli
  • Materion yn ymwneud â'r sectorau dŵr, post ac ynni;
  • Materion blaenoriaeth i'r GIG.

Mae digwyddiadau tebyg i gynulliadau dinasyddion, ond ar raddfa lai, wedi'u cynnal yn aml yn y DU ac mewn mannau eraill. Weithiau gelwir y rhain yn rheithgorau dinasyddion, gan eu bod yn debyg i reithgor mewn treialon troseddol. Mewn rheithgor dinasyddion, mae deuddeg neu ragor o'r cyhoedd yn clywed y dystiolaeth cyn trafod y materion a gwneud argymhellion.