Heddiw, mae'r Senedd yn wahanol iawn i'r Cynulliad a sefydlwyd ym 1999. Ar y pryd, nid oedd gan y sefydliad bwerau deddfu sylfaenol ac nid oedd wedi’i wahanu'n ffurfiol â Llywodraeth Cymru. Erbyn hyn, mae'n codi trethi, yn deddfu ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn rhai o'r meysydd sy'n cael yr effaith fwyaf ar fywydau pobl.
Ar ôl 20 mlynedd, mae'r Senedd wedi datblygu’n senedd lawn.
Yn 2020, pleidleisiodd yr Aelodau dros ddeddf newydd er mwyn:
- gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd i 16;
- newid enw'r Cynulliad i Senedd Cymru neu Welsh Parliament;
- newid enw’r cynrychiolwyr etholedig i "Aelod o'r Senedd" (AS) neu "Member of the Senedd (MS)";
- newid y gyfraith sy'n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod;
- galluogi dinasyddion tramor cymhwysol i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd;
- caniatáu i'r Comisiwn Etholiadol fod yn atebol i'r Senedd a chael ei ariannu ganddi ar gyfer etholiadau datganoledig.
Fel pob cyfraith a gaiff ei phasio yn y Senedd, bydd y Ddeddf yn destun rhagor o waith craffu i adolygu pa mor llwyddiannus y mae wedi bod.
Pleidleisiau i bobl 16 oed yn etholiadau'r Senedd
Bydd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd yn 2021 fel rhan o'r newid mwyaf i'r broses ddemocrataidd yng Nghymru ers hanner canrif.
Argymhellwyd y cynnig gan y Panel Arbenigol annibynnol ar Ddiwygio Etholiadol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Dangosodd yr ymgynghoriad fod 59 y cant o'r bobl a ymatebodd yn cytuno y dylid gostwng yr oedran pleidleisio i 16.
Dywedodd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, y canlynol:
"Bydd rhoi’r hawl i bobl 16 oed bleidleisio yn grymuso ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac…yn ddatganiad pwerus gan y Senedd ein bod yn gwerthfawrogi eu barn.
"Bydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn dod ag egni newydd i'n proses ddemocrataidd."
Rhagor o wybodaeth:
Darllenwch ddatganiad ysgrifenedig y Llywydd >
Senedd Ieuenctid Cymru >
Ymgynghoriad Creu Senedd i Gymru >
Rhagor o wybodaeth am bleidleisiau i bobl 16 oed >
Newid enw’r Cynulliad i’r Senedd
Newidiodd y Ddeddf Senedd ac Etholiadau enw'r Cynulliad i Senedd Cymru neu Welsh Parliament, y Senedd fel y’i gelwir. Mae'r enw newydd yn adlewyrchu statws cyfansoddiadol y Senedd fel senedd genedlaethol sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pob un ohonom yng Nghymru.
Pasiwyd y Ddeddf yn dilyn ymgynghoriad a ddangosodd fod 61 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r Cynulliad newid ei enw.
Anghymhwyso
Newidiodd y Ddeddf Senedd ac Etholiadau y gyfraith ar anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o'r Senedd a rhoddodd eglurder i ddarpar ymgeiswyr ynghylch eu cymhwysedd i sefyll etholiad. Addasodd yr adeg pan fo'r rhan fwyaf o’r anghymwysiadau'n dod i rym, gan alluogi mwy o bobl i sefyll heb orfod ymddiswyddo yn gyntaf; yn lle hynny, dim ond pe byddent yn cael eu hethol y byddai angen iddynt ymddiswyddo.
Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau, mae’r Ddeddf yn anghymhwyso aelodau o Dŷ'r Arglwyddi oni bai eu bod yn cymryd absenoldeb ffurfiol o San Steffan. Mae'r Ddeddf hefyd yn anghymhwyso cynghorwyr awdurdodau lleol rhag bod yn Aelod o'r Senedd.
Bydd y trefniadau anghymhwyso newydd yn dod i rym o etholiad nesaf y Senedd yn 2021.
Trefniadau ariannu ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Caiff ei ariannu gan Senedd y DU ac mae'n atebol iddi. Mae'r Ddeddf Senedd ac Etholiadau yn darparu i'r Senedd fod yn gyfrifol am drefniadau atebolrwydd ac ariannu'r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau datganoledig a refferenda datganoledig yng Nghymru.
Newidiadau eraill
Gwnaeth y Ddeddf Senedd ac Etholiadau newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a mewnol y Senedd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- ymestyn y dyddiad olaf ar gyfer cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad o saith diwrnod i bedwar diwrnod ar ddeg.
- egluro bod gan Gomisiwn y Senedd y pŵer i godi tâl am wasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig â'i swyddogaethau.
Sut y daeth y Ddeddf Senedd ac Etholiadau’n gyfraith?
Daeth Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn gyfraith ar 15 Ionawr 2020. Fel yn achos unrhyw ddeddfwriaeth, roedd y Ddeddf yn ddarostyngedig i’r prosesau craffu deddfwriaethol llawn. Roedd ar y Ddeddf angen "uwchfwyafrif" yn ei chyfnod deddfwriaethol terfynol (roedd angen i 40 Aelod o leiaf bleidleisio o’i phlaid).
Rhagor o wybodaeth am y gwaith craffu ar y Ddeddf
Amserlen
Mai 2020
Mae enw'r Cynulliad yn newid yn ffurfiol i Senedd Cymru, y Senedd, fel y’i gelwir.
Chwefror 2020
Mae’r Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn cael y Cydsyniad Brenhinol ac yn dod yn gyfraith.
Tachwedd 2019
Mae'r Cynulliad yn rhoi ei gymeradwyaeth derfynol i'r Bil. Pleidleisiodd 41 Aelod o’i phlaid.
Chwefror 2019
Mae'r Llywydd yn cyflwyno’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Hydref 2018
Rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad y Comisiwn
Rhoddodd y Cynulliad ei gymeradwyaeth i benderfyniad y Comisiwn i gyflwyno deddfwriaeth i newid enw'r Cynulliad, gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16, a gwneud newidiadau eraill.
Gorffennaf 2018
Mae Comisiwn y Cynulliad yn cyhoeddi ei gymeradwyaeth i gyflwyno deddfwriaeth i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16 a newid enw'r Cynulliad.
Rhagfyr 2017
Mae’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol yn cyhoeddi ei adroddiad, ‘Senedd sy'n Gweithio i Gymru.’
Mehefin 2017
Mae'r Comisiwn yn cyhoeddi ei benderfyniad i ddeddfu i newid enw'r Cynulliad yn dilyn ymgynghoriad yn dangos bod 61 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r Cynulliad newid ei enw.
Chwefror 2017
Cyhoeddodd y Llywydd y byddai Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol, wedi’i gadeirio gan yr Athro Laura McAllister, yn cael ei sefydlu i roi cyngor diduedd ar nifer yr Aelodau sydd eu hangen, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf.
Gorffennaf 2016
Mae’r Aelodau’n cytuno'n unfrydol y dylai enw'r Cynulliad adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.