Fframwaith Rhyngwladol - Diweddariadau Blaenorol

Cytunwyd ar Fframwaith Rhyngwladol y Senedd ym mis Medi 2022 gan Gomisiwn y Senedd ac fe'i gweithredir gan swyddogion ar draws y sefydliad, gan gynnwys Swyddfa Breifat y Llywydd, Y Gwasanaeth Ymchwil a Phwyllgorau'r Senedd.

Mae wybodaeth am ddigwyddiadau rhyngwladol ar gael isod.

Diweddariadau Blaenorol

Ymweliad – Llefarydd yr Assemblée Nationale du Québec

Ym mis Mehefin, croesawodd y Llywydd ddirprwyaeth o Assemblée Nationale du Québec, wedi’i arwain gan eu Llywydd yr Anrh. Nathalie Roy. Roedd rhaglen yr ymweliad yn cynnwys rhaglen diwrnod yn y Senedd ac ymweliad diwylliannol i St Fagan’s.  

Darllenwch mwy am yr ymweliad yma 

Blaenoriaethau Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd adran Ymchwil y Senedd yr erthygl yma yn ddiweddar, yn trafod Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru gan gynnwys perthnasoedd blaenoriaeth rhyngwladol y Llywodraeth, ei swyddfeydd tramor a’i chytundebau rhyngwladol dwyochrog, yn ogystal ag infograffeg ddefnyddiol newydd!  

Adroddiad Monitro – Gweithgarwch Rhyngwladol y Gweinidogion

Fel rhan o’i waith monitro rheolaidd o’r Gweithgaredd Rhyngwladol a wneir gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, bu’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn trafod yr adroddiad monitro hwn 

Ym mis Mehefin, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda’r Brif Weinidog yn canolbwyntio ar Gysylltiadau Rhyngwladol y Llywodraeth. Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i ddiwylliant a’r berthynas rhwng y DU a'r UE.

66ain Cyfarfod Llawn BIPA - Wicklow, Iwerddon

Cynhaliwyd 66ain Cyfarfod Llawn BIPA yn Co. Wicklow ym mis Ebrill 2024, lle cynrychiolwyd y Senedd gan Heledd Fychan AS, Darren Millar MS, a Sarah Murphy AS. Cytunodd aelodau ar Adroddiad Blynyddol 2023 ac adroddiad Pwyllgor Economaidd BIPA ar Strategaeth Ynni y Llywodraeth a Pholisi Ynni Defnyddwyr.

Canolbwyntiodd y Cyfarfod Llawn hwn ar Dwristiaeth, ac fel rhan o’r rhaglen cafwyd anerchiadau gan Lysgenhadon Prydain ac Iwerddon yn ogystal â'r Taoiseach newydd Simon Harris TD. Bydd y Cyfarfod Llawn nesaf yn cael ei gynnal ym mis Medi ar y thema Amddiffyn a Diogelwch.

Mwy o wybodaeth ar y 66ain Cyfarfod Llawn BIPA yma.

Seminar San Steffan - Rhaglen y Senedd

Ym mis Mawrth 2024, cynhaliwyd rhaglen undydd yn y Senedd fel rhan o Seminar San Steffan CPA UK, ar gyfer aelodau a chlercod o ddeddfwrfwydd bach ac is-genedlaethol o Ranbarthau'r Gymanwlad.

Darllenwch am y raglen diwrnod Seminar San Steffan yma.

Ymweliad gan y Ceann Comhairle o Dáil Éireann

Ym mis Mawrth 2024, croesawyd Seán Ó Fearghaíl, y Ceann Comhairle i'r Senedd ar gyfer rhaglen un-diwrnod oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda'r Llywyddion ac aelodau. 

Darllenwch mwy am ymweliad y Ceann Comhairle yma.

Adroddiad Pwyllgor - Llywodraethu'r DU a'r UE

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi cwblhau eu hymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE. Fel rhan o'r ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor ymweliad casglu tystiolaeth â Brwsel i gymryd tystiolaeth gan sefydliadau'r UE a rhanddeiliaid a chynhyrchu crynodeb o themâu allweddol yr ymweliad. Mae'r adroddiad wedi'i gyhoeddi a chynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Chwefror 2024.

Adroddiad Pwyllgor – Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon. Fel rhan o'r ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor ymweliad casglu tystiolaeth â Dulyn, a bu'n adrodd ar yr ymweliad hwnnw yma. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar 29 Tachwedd 2023.

66ain Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad – Accra, Ghana

Cynhaliwyd 66fed Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad yn Accra, Ghana rhwng 2-5 Hydref 2023, ar y thema "Siarter y Gymanwlad 10 mlynedd yn ddiweddarach: Gwerthoedd ac Egwyddorion i Seneddau eu Cynnal". Cynrychiolwyd y Senedd gan Adam Price MS a Carolyn Thomas AS, ac mae eu myfyrdodau ar y gynhadledd ar gael i'w darllen yn yr adroddiad o’r gynhadledd.