Sut y Galla i Ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru?

Cyhoeddwyd 06/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle i ti i ddweud dy ddweud am y pethau sy’n bwysig i ti.

Os wyt ti’n rhwng 11 a fyny at 18 mlwydd oed, yn byw neu yn derbyn dy addysg yng Nghymru, gelli di gynnig dy hun i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

 

Eisiau gwybod mwy? Ymuna gyda ni am sgwrs, gwybodaeth am y Senedd Ieuenctid a’i waith a chyfle i holi mwy.

 

Os wyt ti o dan 18 oed, trwy ymuno â’r digwyddiad hwn, rwyt ti’n cytuno bod gennyt ganiatâd rhiant i gymryd rhan.

Mae'r sesiwn cyfrwng Cymraeg nesaf am 4.30-5.15 yh ar Nos Fercher, Medi'r 15fed.

Archeba dy le yma.