Cymorthdaliadau teithio

Cyhoeddwyd 07/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2026   |   Amser darllen munudau

Gall ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid yng Nghymru hawlio cymhorthdal teithio rhannol i dalu am ymweliadau addysgol â’r Senedd, Bae Caerdydd. Bydd ein cymhorthdal teithio yn cynyddu o £1 y filltir i £1.50 y filltir o fis Medi 2026 ymlaen. Dyma fanylion sut y gallwch wneud cais.

Telerau ac Amodau

1. Bydd ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid yng Nghymru yn gymwys i dderbyn cymhorthdal rhannol i dalu am eu hymweliadau addysgol â Chanolfan Ymwelwyr ac Addysg y Senedd.

2. Ni fydd ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid tu allan i Gymru yn gymwys i wneud cais am arian.

3.Gall ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid hawlio un cymhorthdal teithio ym mhob blwyddyn academaidd yn dilyn ymweliad â Chanolfan Ymwelwyr ac Addysg y Senedd ym Mae Caerdydd.

4.Ni all ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid dderbyn y cymhorthdal teithio os nad ydynt yn derbyn ymweliad addysgol drwy law swyddog addysg y Senedd.

5.Mae’n rhaid trefnu ymweliadau addysgol o leiaf dair wythnos ymlaen llaw ar lein neu drwy gysylltu â Llinell Archebu’r Senedd ar 0300 200 6565. Dylai ysgolion drefnu eu hymweliad mor fuan ag sy’n bosibl er mwyn osgoi cael eu siomi. Bydd y sesiynau yn cael eu trefnu ar sail yr egwyddor ‘y cyntaf i’r felin…’.. Gallwch hefyd archebu arlein drwy'r ddolen hon:Ymweld â Ni (senedd.cymru) a dewis ARCHEBWCH NAWR.

6.Os ydych yn bwriadu gwneud cais am gymhorthdal teithio a allwch sicrhau bod gennych manylion cyfrif talu yr ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid yn barod.

7.Gall ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid hawlio cymhorthdal ar gyfer y daith ddwy ffordd fyrraf i’r Senedd ar gyfer un bws yn ystod un flwyddyn ariannol. Mae’n rhaid i hyd y daith mewn milltiroedd gael ei gyfrifo drwy ddefnyddio rhaglen ‘RAC route planner’. 

8.Nid yw’r cymhorthdal ar gael yn ystod gwyliau h.y. gwyliau ysgol a coleg a gwyliau’r Senedd.

9.Mae’r Senedd yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw ymweliadau sydd wedi’u trefnu, os na ellir cynnig ymweliad addysgol am unrhyw reswm. Bydd y Senedd yn digolledu ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid am unrhyw gostau a dalwyd i’r cwmni bysiau/teithio os caiff y trefniadau ar gyfer ymweliad eu canslo.

10.Pan fydd mwy na un ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid yn ymweld o fewn un slot ymweld, dim ond un cymhorthdal ariannol a delir os ydych yn teithio ar yr un bws. Gall ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid dderbyn taliadau ar wahan, os ydynt yn teithio ar fysiau gwahanol.

11.Dylai trefnwyr yr ymweliadau sicrhau bod y gymhareb rhwng disgyblion/pobl ifanc ac athrawon/staff yn cydymffurfio â chanllawiau eu Hawdurdod Lleol ac Asesiad Risg Iechyd a Diogelwch y Senedd. Bydd yr athrawon/staff yn gyfrifol am ddiogelwch ac ymddygiad eu disgyblion/pobl ifanc drwy’r amser.

12.Nid yw’r Senedd yn gyfrifol am ddiogelwch y disgyblion/pobl ifanc wrth iddynt deithio i’r Senedd, nac ar eu taith yn ôl.