Eich Senedd, Eich Pleidlais

Cyhoeddwyd 22/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2026

Dyddiadau: 17 Mawrth – 15 Hydref 2026

Lleoliad:  Oriel y Senedd

 

O fis Mawrth 2026, beth am edrych ar Eich Senedd, Eich Pleidlais. Gallwch ddarganfod pam mae eich pleidlais yn bwysig a sut allwch chi lunio dyfodol Cymru – cyn ac ar ôl yr etholiad.

 

Mae gan Gymru ei senedd ei hun – sef Senedd Cymru.

Mae hyn yn golygu bod Senedd Cymru, nid Senedd y DU, yn pasio deddfau am bob math o bethau sy'n effeithio ar eich bywyd bob dydd yng Nghymru.

Pethau fel ysbytai a meddygon teulu, ysgolion ac addysg, trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd, ffermio, diwylliant, chwaraeon, yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg.

Felly, bydd gan yr Aelodau o'r Senedd sy’n cael eu hethol ym mis Mai 2026 y pŵer i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru.

 

Ewch i’r arddangosfa i ddysgu mwy am pam mae’r etholiad yn bwysig, a dysgu am feysydd allweddol:

  • Sut mae Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol – Deall y broses y tu ôl i’ch cynrychiolaeth.
  • Eich Etholaeth – Mae gan Gymru 16 etholaeth newydd – dysgwch beth yw eich un chi.
  • Beth mae Aelodau o’r Senedd yn ei wneud – gweld sut maen nhw’n gweithio yn y Senedd ac yn eich cymuned.
  • Beth sy'n digwydd ar ôl etholiad y Senedd – Dysgwch beth sy'n digwydd nesaf unwaith y bydd y pleidleisiau wedi cyrraedd.
  • Dweud eich dweud – Darganfyddwch ffyrdd o godi’r materion sydd bwysicaf i chi.

 

Cynlluniwch eich ymweliad >