Arddangosfa gan Bethan M. Hughes
Dyddiadau: 21 Mawrth – 1 Gorffennaf 2026
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead
Mae Pwytho Llais yn archwilio sut mae pwyth yn creu llais ar gyfer mynegiant, hunaniaeth, a democratiaeth. Mae’n annog cynulleidfaoedd i ystyried ymgyrchu, deisebu, etholfraint, yr hawl i bleidleisio, ac effaith pleidleisio.

Mae’r gwaith yn myfyrio ar rym y bleidlais unigol a breuder democratiaeth ei hunan. Mae’n archwilio’r marc ‘X’ symbolaidd rydyn ni’n ei ddefnyddio fel mynegiant cadarnhaol a negyddol, gan ganolbwyntio ar y marc rydyn ni’n ei osod wrth bleidleisio ac yn symbol o gusan, a’i botensial ar gyfer mynegiant creadigol.

Mae gwaith Bethan wedi’i wreiddio yn etifeddiaeth gyfoethog cynlluniau cwiltiau traddodiadol Cymru. Mae’n gyfrwng cyfoes ar gyfer sgyrsiau ynglŷn â’n dyfodol. Mae ei chwiltiau wedi eu gweadeddu’n ddwys gyda thrwch o bwythau cwiltio, marcio byrfyfyr a chydosod gyda phalet lliw cyfyngedig trawiadol. Mae’r casgliad yn cynnwys cwiltiau un-darn a darnau gosodwaith mwy wedi’u creu o filoedd o gwiltiau bychain.
Mae ymarfer cyfranogol yn ffactor allweddol yn natblygiad ei gwaith ac mae hi’n ymwneud yn gyson â phobl o bob oed a gallu er mwyn canfod ac archwilio themâu sy’n ei swyno.
Cafodd Pwytho Llais ei arddangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, y ganolfan genedlaethol ar gyfer y celfyddydau cymhwysol.
Pwytho Llais: Sgwrs artist gan Bethan M. Hughes

Dyddiad: Dydd Sadwrn 21 Mawrth 2026
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead
Amser: sesiwn Gymraeg 10.40 - 11.25; sesiwn Saesneg 13.00 - 13.45
Mae'r arddangosfa Pwytho Llais yn archwilio sut mae pwyth yn creu llais ar gyfer mynegiant, hunaniaeth, a democratiaeth. Mae’r gwaith yn myfyrio ar rym pleidlais unigol, pa mor fregus yw democratiaeth ei hun, ac ehangu Senedd Cymru.
Beth am ddod draw i gwrdd â'r artist, Bethan M. Hughes, i ddysgu rhagor am yr arddangosfa a'i dull o weithio.
Er gwybodaeth: Cynhelir dwy sesiwn ar y diwrnod. Dewiswch eich iaith wrth ddewis opsiwn archebu isod. Rhaid archebu tocyn ar wahân ar gyfer pob person sy'n dymuno mynychu'r sesiwn.
- Sesiwn Gymraeg: Pwytho Llais: Sgwrs artist gan Bethan M. Hughes (21 Mawrth – sesiwn Gymraeg, 10:40 – 11:25)
- Sesiwn Saesneg: Pwytho Llais: Sgwrs artist gan Bethan M. Hughes (21 Mawrth – sesiwn Saesneg, 13:00 – 13:45)
Lluniau: Dewi Tannatt Lloyd