Mynd i dudalen Busnes y Senedd chevron_right
Mynd i dudalen Sut rydym yn gweithio chevron_right
Crwydro’r adran Ymweld â ni chevron_right
Arddangosfa newydd yn y Pierhead. Beth am ddysgu rhagor am y weledigaeth wreiddiol ar gyfer y Senedd, a gweld brasluniau pensaernïol cynnar Ivan Harbour o’r adeilad.
Mae’r arddangosfa hon yn adrodd hanes unig sgwadron wrth gefn yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru – Sgwadron Rhif 614 (Sir Forgannwg) – o’r adeg pan gafodd ei sefydlu ym 1937 hyd heddiw. Dyddiadau: 8 Tachwedd 2024 - 4 Ionawr 2025.
Ar y cyd â’r Heritage and Cultural Exchange, mae tair arddangosfa newydd wedi’i llunio yn y Pierhead i roi cipolwg ar fywyd ym Mhorth Teigr a’r dociau o’r 1880au i’r 1950au.
Ymunwch â ni yn y Senedd y gaeaf hwn ar gyfer llawer o weithgareddau rhad ac am ddim i’r teulu! Tachwedd 2024 - Ionawr 2025.
Ymunwch â thaith dywys a dysgwch fwy am waith Senedd Cymru, pensaernïaeth nodedig yr adeilad a hanes Bae Caerdydd.
Llwyfan ar gyfer rhagoriaeth gydag amrywiaeth o gynhyrchion sy’n dod o Gymru ac sydd wedi’u cynhyrchu yng Nghymru.
Dysgwch am arddangosfeydd, gweithgareddau, teithiau a digwyddiadau sy’n digwydd yn y Senedd a'r Pierhead.
Waeth ble ydych yn y byd, dewch i mewn i weld y Senedd ar daith rithwir.
Mae’r arddangosfeydd yn y Senedd yn gyfle i weld yr enghreifftiau gorau o’r hyn y gall Cymru ei gynnig. Maent yn amrywio o bartneriaethau â’n prif sefydliadau cenedlaethol i brosiectau a gaiff eu datblygu ar y cyd â chymunedau Cymru.