Cyflwyniad i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd 15/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn:

Gyda'r Chweched Senedd bellach wedi'i sefydlu, mae hwn yn gyfle i gwrdd ag aelodau newydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Ymunwch â'r Aelodau a nifer o randdeiliaid wrth iddynt drafod meysydd blaenoriaeth i’r dyfodol a dewch i ganfod sut y gallwch chi ddweud eich dweud gydag ymgynghoriad sy’n lansio cyn bo hir.