Tyrd i glywed am waith y Senedd a phwy sy’n dy gynrychioli di a dy gymuned.
Bydd cyfle i gwrdd ag Aelodau o’r Senedd yn ogystal â dweud dy ddweud am y materion sy’n bwysig i ti. Ymuno â ni mewn sesiwn galw heibio:
- Dydd Mercher 9 Awst, 15:00: Jack Sargeant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
- Dydd Iau 10 Awst, 11:00: Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
- Dydd Gwener 11 Awst, 11:00: Llŷr Gruffydd AS, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Beth am gymryd rhan drwy alw heibio stondin y Senedd (309) i ddweud Shwmae?!
- Dyddiol, 14:00: Dysga am bwerau'r Senedd mewn sesiwn hwyliog gyda hetiau a gwisg ffansi. Sesiwn addas ar gyfer plant (yn enwedig disgyblion ysgolion cynradd).
- Dydd Gwener 11 Awst, 13:00: Cipolwg ar yr Archif Wleidyddol y Llyfrgell Genedlaethol o ddeunyddiau ymgyrchu a chasgliadau personol.