Y Senedd yn y 'Steddfod

Dewch i ymweld â'r Senedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd!

Rhwng 3 a 10 Awst, byddwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mharc Ynys Angharad, Pontypridd, i siarad â chymaint o ymwelwyr â phosibl am waith y Senedd a’n Haelodau.

Ar y Stondin Trwy Gydol Yr Wythnos...

Bydd digonedd o weithgareddau ar stondin y Senedd i ddiddanu oedolion a phlant fel ei gilydd. Byddwn hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol yr wythnos gan gynnwys sesiynau ‘galw heibio’ gyda nifer o’n Cadeiryddion Pwyllgorau ac Aelodau, sy’n rhoi’r cyfle i chi ofyn cwestiynau a thrafod materion sy’n bwysig i chi. 

Dydd Sadwrn 3 Awst

 

Sesiwn Galw Heibio y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

14:00

Stondin y Senedd

Dydd Llun 5 Awst

 

Sesiwn Galw Heibio y Pwyllgor Cyllid

 

11:00

Stondin y Senedd

Dydd Mawrth 6 Awst

 

Darllediad  byw o’r Senedd- Pleidlais enwebu Prif Weinidog newydd

 

 

Sesiwn ‘Privilege Café’ – ‘Dwi’n Gymraes hefyd’

11:00

Stondin y Senedd

 

11:00

Stondin y Senedd

Dydd Mercher 7 Awst

Sesiwn Cymdeithasau – Defnydd y Gymraeg yn y Cymoedd – Pwyllgor Diwylliant, Cyfarthrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

 


Sesiwn Galw Heibio y Pwyllgor Diwylliant, Cyfarthrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

 

11:00

Pabell Cymdeithasau

 

14:00

Stondin y Senedd

Dydd Iau 8 Awst

Sesiwn Galw Heibio y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylched a Seilwaith

Sesiwn Rhiant a Phlentyn gyda ‘Babis Bach’  - ‘Annwyl Sw’

11:00

 

14:00

Dydd Gwener 9 Awst

Cymdeithasau – Sesiwn Senedd Ieuenctid Cymru

Sesiwn Galw Heibio Pwyllgor Deisebau

11:00

 

14:00

 

Digwyddiadau

Dwi'n Gymraes Hefyd

Sesiwn gyda’r Privilege Café

Creodd Mymuna Soleman y Privilege Café fel man diogel lle byddai lleisiau ymylol yn cael eu croesawu a’u cynnwys, eu parchu, a’u clywed. Bydd Mymuna yn ymuno â ni ar stondin y Senedd i berfformio darn o farddoniaeth lafar o’r enw ‘I’m Welsh too’ a bydd yn cynnal trafodaeth anffurfiol am ystyr bod yn ‘Gymraeg’.

Dydd Mawrth 6 Awst, 14.00

Babis Bach Babies

Sesiwn difyr i blant ifanc a'u rhieni

Bydd Meg ac Ellie o Babis Bach Babies yn ymuno â ni ar stondin y Senedd i gynnal sesiwn yn seiliedig ar y llyfr Annwyl Sw gyda thelyn a phropiau lliwgar a deniadol.

Dydd Iau 8 Awst, 14.00

Sesiynau Cymdeithasau

Eleni byddwn yn cynnal dwy sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod.

Gweler manylion am ein digwyddiadau unigol isod, a chael rhagor o wybodaeth am y rhaglen eleni oddi ar wefan yr Eisteddfod.

Enwch Ein Draig Newydd!

Helpwch ni i enwi ein Senedd Draig newydd! Dewch i'n stondin a rhannwch eich awgrym.

Os na allwch gyrraedd ein stondin, ni fyddwch yn colli allan - ewch i'n tudalen Instagram a rhannwch eich awgrymiadau.