Mae Eich Senedd yn Newid

Siaradwch â ni amdano!

Dros yr haf rydyn ni'n dod â'r Senedd atoch chi! O fis Mai 2025 tan Etholiad 2026, byddwn ni'n ymweld â lleoliadau ledled Cymru i drafod y newidiadau sydd yn dod i'r Senedd a'r hyn maen nhw'n ei olygu i chi a'ch cymuned.

Dysgwch fwy am ble rydyn ni'n mynd a sut allwch chi gymryd rhan. Gwelwn ni chi cyn bo hir!

Ein Digwyddiadau

Gweler manylion ymweliadau sydd ar ddod i leoliadau ledled Cymru

2025

 

 

Map of Wales featuring pins of locations the Senedd will be visiting throughout the summer: Caernarfon, Aberavon, Aberystwyth, Cardiff, Swansea, Builth Well, Wrexham, Haverfordwest, Cardiff

 

Mwy o leoliadau i'w cadarnhau'n fuan!

Beth i ddisgwyl

Rydym yn mynd ar daith dros yr haf – yn ymweld â sioeau a digwyddiadau ledled Cymru – ac rydym am glywed gennych chi!

Galwch heibio i'n stondin i ddysgu mwy am y Senedd a sut mae'n eich cynrychioli chi. Darganfyddwch beth sy'n newid, sut y gallai'r newidiadau hynny fod o fudd i chi, a pham mae eich llais yn bwysig.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth, yn ateb eich cwestiynau, ac yn annog pawb i gymryd rhan – boed hynny'n golygu pleidleisio, dysgu mwy am eich Aelodau, neu ddeall sut mae'r Senedd yn siapio bywyd yng Nghymru.

Dweud eich dweud, gofynnwch gwestiynau, a darganfyddwch sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru – byddem wrth ein bodd yn sgwrsio â chi.