Dewch i'n gweld yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

2 – 9 Awst 2025 | Ar y Maes

Dewch i ddweud helo! Rydym yma drwy'r wythnos i:

  • Ateb eich cwestiynau am y newidiadau ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026.
  • Helpu i ddangos ffiniau eich etholaeth newydd y Senedd.
  • Helpu i’ch paratoi ar gyfer pleidleisio – rhowch gynnig ar bleidlais sampl a gweld sut mae'n gweithio.
  • Ofyn am eich barn ar ein 'Cwestiwn Dyddiol'

 

Yn ogystal â hynny, mae digwyddiadau arbennig ar y Maes:

Dathlu Dafydd Êl - Dathlu bywyd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
🗓️ Dydd Iau, 16.00 – Y Stiwdio

Amynedd, gras…a gwên – Degawd ym mywyd Llywydd
– Mae Elin Jones AS yn edrych yn ôl ar ei deng mlynedd fel Llywydd.
🗓️ Dydd Gwener, 11:00 – Cymdeithasau

 

👇Sgroliwch i weld rhagor sy’n digwydd bob dydd!

Rhaglen yr wythnos

Dydd Llun 4 Awst

Y Comisiwn Etholiadol

Amser: 4 Awst, 11:00 - 15:00

Lleoliad: Stondin y Senedd

Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Galwch heibio am gyfle anffurfiol i ofyn cwestiynau am sut mae etholiadau yn gweithio, sut i bleidleisio a pha reolau sy'n berthnasol.

P'un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf neu’n chwilfrydig, dyma'ch cyfle i gael atebion clir, diduedd.

Dydd Mercher 6 Awst

Y Pwyllgor Deisebau

Amser: 6 Awst, 14:00

Lleoliad: Stondin y Senedd

Deisebau yw un o'r ffyrdd mwyaf uniongyrchol o awgrymu sut gallai rhywbeth newid. Gallant godi ymwybyddiaeth, dylanwadu ar ddeddfau a pholisïau, neu hyd yn oed ysgogi dadleuon yn y Senedd.

Galwch heibio am sesiwn anffurfiol gyda Phwyllgor Deisebau’r Senedd. Dyma gyfle i chi ofyn cwestiynau, dysgu am y broses, a chael atebion clir, ymarferol.

P'un a ydych yn dechrau eich deiseb gyntaf – neu dim ond eisiau deall y system yn well – dyma’r sesiwn i chi.

Dydd Iau 7 Awst

Y Pwyllgor Cyllid

Amser: 7 Awst, 11:00

Lleoliad: Stondin y Senedd

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gyfrifol am archwilio cyllideb Llywodraeth Cymru a'r trethi a'r cynlluniau gwario cysylltiedig.

Galwch heibio am sesiwn anffurfiol gyda'r Pwyllgor i drafod eich barn am sut y dylai Llywodraeth Cymru wario ei chyllideb – tua £28 biliwn – ar gyfer 2026-27.

P'un a oes gennych chi ddiddordeb mewn iechyd, addysg, hinsawdd, neu gymunedau – dyma eich cyfle i rannu eich safbwyntiau gyda'r Pwyllgor.

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Amser: 7 Awst, 13:00 - 14:00

Lleoliad: Stondin y Senedd

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn adolygu sut y gall y Senedd hyrwyddo diwylliant o urddas a pharch yn well—fel bod pawb yn teimlo'n gyfforddus wrth ryngweithio â'r Senedd.

Ymunwch â’r Pwyllgor mewn sesiwn galw heibio anffurfiol a rhowch eich safbwyntiau ar beth yn rhagor y gellid ei wneud i sicrhau bod y Senedd yn parhau i fod yn sefydliad diogel a chynhwysol.

Y Pwyllgor Diwylliant

Amser: 7 Awst, 15:00 - 16:00

Lleoliad: Stondin y Senedd

Ymunwch â Phwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd mewn sesiwn galw heibio anffurfiol.

Mae am glywed eich barn ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ariannu diwylliant, chwaraeon, a’r Gymraeg.

Dathlu Dafydd Êl

Amser: 7 Awst, 16:00

Lleoliad: Y Stiwdio

Yn dilyn marwolaeth trist Llywydd cyntaf y Senedd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn gynharach eleni, bydd y sesiwn hwn ymysg aelodau o’u deulu, ffrindiau a chydweithwyr yn gyfle ddathlu ei fywyd a’i gyfraniad i fywyd Cyhoeddus Cymru.

Fel ffigwr allweddol ar y daith i ddatganoli, arweiniodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas y Cynulliad newydd sbon drwy ei 12 mlynedd cyntaf o fodolaeth.

Ei arweinyddiaeth gadarn yn ystod y cyfnod hwn a roddodd y Cynulliad ar y trywydd i fod y Senedd y mae heddiw.

Darperir cyfieithu ar y pryd.

Dydd Gwener 8 Awst

Amynedd, gras…a gwên – Degawd ym mywyd Llywydd

Amser: 8 Awst, 11:00

Lleoliad: Cymdeithasau

Wedi 10 mlynedd fel Llywydd y Senedd, hwn bydd haf olaf Elin Jones AS wrth y llyw wedi iddi gyhoeddi’n gynharach eleni na fydd yn rhoi ei henw ymlaen i fod yn Llywydd wedi etholiad Mai 2026.

Yn Aelod Plaid Cymru dros Geredigion ers sefydliad Cynulliad Cymru yn 1999, etholwyd yn Llywydd yn 2016 a bydd y sgwrs hon dan arweiniad Nest Jenkins, ITV Cymru yn gyfle i edrych yn ôl ar ei hargraffiadau ar rhai o gerrig milltir y cyfnod ers 1999 a dathlu’r effaith y mae’r Senedd wedi’i chael ar ddemocratiaeth a bywyd yng Nghymru.

Byddan nhw hefyd yn edrych tua’r dyfodol ac yn ystyried beth sydd o flaen y Senedd wedi’r etholiad nesaf.

Darperir cyfieithu ar y pryd.

Dydd Sadwrn 9 Awst

Y Comisiwn Etholiadol

Amser: 9 Awst, 10:00 - 12:00

Lleoliad: Stondin y Senedd

Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Galwch heibio am gyfle anffurfiol i ofyn cwestiynau am sut mae etholiadau yn gweithio, sut i bleidleisio a pha reolau sy'n berthnasol.

P'un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf neu’n chwilfrydig, dyma'ch cyfle i gael atebion clir, diduedd.