Diogelwch Ymwelwyr yn y Senedd
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad diogel a chroesawgar i bawb sy'n ymweld â'r Senedd.
I helpu i gadw pawb yn ddiogel:
- Gellir gwrthod mynediad os ydych chi o dan ddylanwad alcohol
- Ni chaniateir bwyd, alcohol a diodydd heb eu selio
- Gall ymddygiad amhriodol arwain at ofyn i chi adael
- Rhaid i chi adael yr adeilad os gofynnir i chi gan y staff
- Gelir cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr am resymau iechyd a diogelwch
Gweithdrefnau Diogelwch
Er mwyn diogelu ymwelwyr a staff, rydym yn defnyddio:
- Sgrinio pelydr-X ar gyfer bagiau ac eitemau personol
- Pyrth canfod metel bwaog
- Sganwyr a gaiff ei ddal â llaw os oes angen
- Monitro gan staff diogelwch hyfforddedig
Gall y gweithdrefnau hyn newid yn dibynnu ar lefel y bygythiad diogelwch presennol.
Mynediad i Ardaloedd Cyfyngedig
Mae cyfyngiad ar fynediad i rai ardaloedd o’r Senedd. Gall ymwelwyr fynd i mewn i'r ardaloedd hyn dim ond pan fyddant yn cael eu hebrwng gan aelod o staff sydd â phàs ar gyfer yr adeilad. Byddwch yn cael pàs ymwelydd yn y dderbynfa y mae'n rhaid i chi ei wisgo a sicrhau ei fod yn weladwy bob amser.
Wele ein Côd Ymddygiad Ymwelwyr (pdf 162kb).