Diogelwch a Mynediad

Cyhoeddwyd 15/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2024   |   Amser darllen munud

Diogelwch

Mae Senedd Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ardderchog i bob ymwelydd.

Mae systemau a gweithdrefnau diogelwch o ran mynediad wedi'u cynllunio ar gyfer darparu mynediad am ddim i’r cyhoedd ymweld â’r mannau cyhoeddus. Ar yr un pryd, mae’r trefniadau hyn yn sicrhau bod yr adeilad, a phawb sydd ynddo, yn ddiogel. Gall ymwelwyr ddisgwyl:

  • amgylchedd glân a dymunol;
  • gwybodaeth gywir;
  • staff sy’n parchu eu hurddas a'u diwylliant;
  • cyfarwyddiadau clir mewn argyfwng;
  • ystafell cymorth cyntaf a staff sydd wedi’u hyfforddi yn y maes hwn.

Tynnir sylw ymwelwyr at yr amodau a ganlyn:

  • ni chaniateir i unrhyw ymwelydd sydd o dan ddylanwad alcohol ddod i’r adeilad;
  • ni chaiff ymwelwyr ddod â bwyd nac alcohol i’r adeilad;
  • gofynnir i unrhyw ymwelydd sy’n ymddwyn yn amhriodol adael yr adeilad;
  • bydd gofyn i ymwelwyr adael yr adeilad pan ofynnir iddynt wneud hynny;
  • am resymau iechyd a diogelwch, bydd y Senedd yn rheoli nifer yr ymwelwyr sy’n cael dod i’r adeilad ar unrhyw adeg.

Mae’r amodau hyn ar waith er mwyn sicrhau diogelwch a lles ymwelwyr a staff. Gellir newid yr amodau os bydd lefel y bygythiad yn newid. Rhaid i staff diogelwch gydymffurfio â'r gweithdrefnau a ganlyn:

  • sgrinio bagiau ymwelwyr drwy ddefnyddio peiriant pelydr x;
  • gofyn i ymwelwyr gerdded drwy sganiwr i ddod o hyd i unrhyw fetel yn eu heiddo;
  • defnyddio sganiwr llaw os oes metel wedi'i ganfod;
  • cadw golwg ar ymddygiad ymwelwyr.

Rhaid i bob ymwelydd gydymffurfio â’r gweithdrefnau hyn.

 

Mynediad i Ardal Gyfyngedig

Rheolir mynediad i ardaloedd cyfyngedig. Caiff ymwelwyr fynediad i ardaloedd cyfyngedig os ydynt yng nghwmni deiliad cerdyn ag awdurdod. Dosberthir cardiau ymwelwyr yn y dderbynfa a dylid eu gwisgo drwy gydol yr ymweliad â’r Senedd. Dylid hefyd sichau bod modd eu gweld yn amlwg.

 

Mynediad

Dyluniwyd y Senedd i fod yn adeilad arloesol sy'n agored ac yn hygyrch i bawb. Cyflawnwyd hyn ym mhob un o’r ardaloedd cyhoeddus gyda chymorth y Grwp Cynghori ar Fynediad a oedd yn cynnwys grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl ledled Cymru, y contractwr, Taylor Woodrow, a Phartneriaeth Richard Rogers. Roedd y blaenoriaethau o ran hygyrchedd yn cystadlu ag anghenion y darlledwyr ac felly 70 y cant o'r seddi yn y Siambr sy’n gwbl hygyrch, gan gynnwys seddi’r Cabinet. Disgrifiwyd y Senedd fel adeilad blaengar ac arloesol yn y cyfryngau a chafodd y nodweddion isod eu cynnwys i sicrhau ei bod yn cyrraedd ei nod o fod yn esiampl i bawb o ran darparu mannau cyhoeddus sy’n hawdd i’w cyrraedd:

  • lifft ychwanegol ym mlaen yr adeilad er mwyn i’r cyhoedd gyrraedd y fynedfa;
  • lifft cyhoeddus mwy o fewn yr adeilad;
  • lifftiau yng nghefn yr adeilad i'w defnyddio pe bai tân;
  • mae toiledau cyhoeddus yn y Neuadd a thoiled â chymhorthion, yn cynnwys cyfarpar codi, yn y Neuadd;
  • ystafell rhieni a phlant;
  • dolenni clywed ym mhob rhan o'r adeilad;
  • derbynfa sy'n hygyrch i staff ac i ymwelwyr;
  • tri lle penodol i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn yn orielau'r ystafelloedd pwyllgora a lle i ddau arall os oes angen;
  • naw lle penodol i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn yn oriel y Siambr. Gellir symud seddi i wneud mwy o le os oes angen;
  • deuddeg lle parcio ar gyfer pobl anabl gerllaw’r Senedd;
  • llwybrau addas dan do o'r lleoedd parcio ar gyfer pobl anabl i'r lifftiau ym mlaen yr adeilad;
  • arwyddion Cymraeg a Saesneg ac arwyddion Braille yn y ddwy iaith;
  • marciau tywysol ar y palmant;
  • cynlluniau gweithredu ar gyfer defnyddio’r adeilad.

Wele ein Côd Ymddygiad Ymwelwyr (pdf 162kb).

Gwelir hefyd: Ymwelwyr sydd ar y Sbectrum Awtistig