Manteisiwch i'r eithaf ar eich amser yn y Senedd

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod cyn i chi ymweld.

Oriau Agor
  • Dydd Llun i ddydd Gwener: 09:00–16:30
  • Dydd Sadwrn a Gwyliau Banc: 10:30–16:30
  • Mynediad olaf: 16:00

Efallai y bydd yr adeilad yn agor yn gynharach neu’n aros ar agor yn hwyrach i ymwelwyr sy'n mynd i sesiynau’r Cyfarfod Llawn neu gyfarfodydd pwyllgorau.

Noder y gall oriau agor, teithiau tywys, arddangosfeydd a mynediad i rannau o'r adeilad newid ar fyr rybudd oherwydd busnes Seneddol.

Cyrraedd Senedd Cymru

Mae'r Senedd wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd. Gallwch gyrraedd yma ar droed, ar feic, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car.

Beic

Mae dau leoliad ar gyfer parcio beiciau ar yr ystad, ger mynedfeydd y Pierhead a Thŷ Hywel.

Gallwch ddod o hyd i fanylion llwybrau beicio lleol ar y map cerdded a beicio Caerdydd.

Bws

Mae safle bws Canolfan Mileniwm Cymru 3 munud ar droed o fynedfa’r Senedd. Gall ymwelwyr ddefnyddio'r gwasanaethau bws canlynol:

  • Bws y Bae rhif 6, 8 a 305 o Gyfnewidfa Bysiau Caerdydd, Sgwâr Canolog
  • 305 o Ddinas Powys trwy Benarth
  • Gwasanaeth Cylch y Ddinas 1 a 2

Gallwch ddod o hyd i fanylion y llwybrau a'r amseroedd yn Bws Caerdydd

Trên

Mae gorsaf Bae Caerdydd 10 munud ar droed o fynedfa'r Senedd.

Mae gwasanaethau'n rhedeg o Bontypridd a Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Traveline

Ffordd

O'r gorllewin, gadewch yr M4 wrth gyffordd 33, dilynwch yr A4232 i Fae Caerdydd a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Senedd Cymru, CF99 1SN.

O'r dwyrain, gadewch yr M4 wrth gyffordd 29, dilynwch yr A48 ac yna’r A4232 i Fae Caerdydd a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Senedd Cymru, CF99 1SN.

Parcio hygyrch

Mae parcio hygyrch ar gael, trwy drefnu ymlaen llaw.

Yn achos ymwelwyr sy'n mynd i gyfarfodydd gydag Aelodau o’r Senedd, Gweinidogion Cymru neu swyddogion, dylid gwneud trefniadau â’u swyddfeydd.

Yn achos ymwelwyr sy’n mynd i sesiynau’r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgor, neu ymweliadau wedi'u trefnu ymlaen llaw â'r Senedd, gellir trefnu parcio drwy gysylltu â ni

Mae lifft allanol ar gael i ymwelwyr anabl yn ein maes parcio hygyrch y tu allan i’r Senedd.

Fel arfer, mae’n hanfodol rhoi o leiaf 24 awr o rybudd ynghyd â gwybodaeth am y cerbyd a'r gyrrwr. Rhaid i ymwelwyr ddangos eu bathodyn glas wrth gyrraedd.

Parcio ceir

Mae'r maes parcio agosaf, sef maes parcio aml-lawr Q-Park ar Stryd Pierhead, 4 munud i ffwrdd ar droed o fynedfa'r Senedd. Gellir cael gostyngiad drwy drefnu ymlaen llaw a defnyddio'r cod 'SEN'. Efallai y bydd parcio ar y stryd, talu ac arddangos ar gael ar Rodfa’r Harbwr neu mae maes parcio talu ac arddangos oddi ar Stryd Stuart.

Parcio bws

Cysylltwch â ni i gael map sy'n dangos mannau gollwng bysiau.

Tacsi

Mae safleoedd tacsi wedi'u lleoli ledled y ddinas, gan gynnwys y tu allan i orsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Mae'r safle tacsis agosaf at ystad y Senedd ar Stryd Bute, ger Cei'r Fôr Forwyn. 

Diogelwch

Gan ein bod yn Senedd weithredol, rhaid i bob ymwelydd fynd trwy sgan diogelwch a chwilio bagiau cyn y gallant fynd i mewn i'r adeilad. Mae'r broses hon yn debyg i sgrinio ar ffurf maes awyr ac mae’n cael ei chynnal gan ein staff diogelwch hyfforddedig.

Fel arfer, dim ond ychydig funudau y dylai hyn eu cymryd ond dylech ganiatáu tua 15 munud. Efallai y bydd ciw byr y tu allan i'r adeilad cyn mynd i mewn.

Dewch â chyn lleied o eiddo â phosibl i’r adeilad gyda chi. Dysgwch beth allwch a beth na allwch ddod â chi i'r Senedd.

Os bydd angen gadael yr adeilad mewn argyfwng, bydd ystad y Senedd yn canu larwm tân. Bydd aelod o staff yn eich tywys i'ch allanfa agosaf.

Darllenwch ein Cod Ymddygiad ar gyfer Ymwelwyr.

Hygyrchedd

Mae'r Senedd yn gwbl hygyrch gyda mynediad di-risiau, lifftiau, toiledau hygyrch a systemau dolen glyw. Rydym yn darparu:

  • Darpariaeth bwrpasol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn yr orielau cyhoeddus.
  • Parcio hygyrch (trwy drefnu ymlaen llaw).
  • Cyfleuster Changing Places gyda gwely i newid oedolyn a theclyn codi.
  • Arwyddion yn y Gymraeg, Saesneg a Braille.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, yn enwedig yn ystod gwacáu mewn argyfwng, gallwn greu Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP) i chi. Cysylltwch â ni cyn i chi gyrraedd.

Mae ein teithiau yn cynnwys amrywiaeth o ofynion ymwelwyr, i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Gellir defnyddio ein taith rithwir i archwilio'r Senedd cyn eich ymweliad.

Gwybodaeth i ymwelwyr niwrowahanol

Dydd Sadwrn a dydd Llun yw ein diwrnodau ymweld tawelach. Mae gennym ystafell dawel y mae croeso i ymwelwyr ei defnyddio. 

Gall ein hadnoddau eich helpu i ddeall pa brofiadau synhwyraidd i'w disgwyl yn ystod eich ymweliad â'r Senedd.

Gwybodaeth i deuluoedd

Gall plant fwynhau ardal chwarae gyda theganau, chwarae synhwyraidd a map llawr enfawr o Gymru.

Dewch ar Lwybr Archwilio’r Senedd, yn rhad ac am ddim, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer plant 5-7 oed i ddarganfod nodweddion allweddol yr adeilad mewn ffordd ddifyr a rhyngweithiol.

Caffi’r Senedd yw’r cyntaf yng Nghymru i gael ei achredu gan y Safon Caffi Teuluol Kids in Museums, sef nod o ragoriaeth ar gyfer caffis croesawgar sy’n canolbwyntio ar deuluoedd mewn mannau diwylliannol. Mae'r caffi yn cynnig:

  • Cynhesu poteli
  • Cadeiriau uchel
  • Cyfleusterau newid babanod gerllaw a chyfleuster ystafell ymolchi teuluol.

Mae dwy ystafell dawel ar gael.

Ymarfer eich crefydd wrth ymweld

Mae dwy ystafell dawel ar gael i'w defnyddio fel ystafelloedd gweddïo. Mae matiau gweddïo ar gael.

Os bydd y bwa datgelu metel yn canfod rhywbeth metel, bydd staff yn defnyddio synhwyrydd llaw i sganio eich corff. Gallwch ofyn i swyddog diogelwch o'r un rhywedd gyflawni'r dasg hon.

Rhaid rhoi kirpans i’r tîm Diogelwch pan fyddwch yn cyrraedd. Bydd kirpan bach yn cael ei ddarparu i ymwelwyr am gyfnod eich ymweliad. Bydd rhif adnabod unigryw yn cael ei roi i chi i sicrhau eich bod yn cael y kirpan cywir ar ôl i chi ddychwelyd.

Cyfleusterau

Yn y Senedd, fe welwch chi: 

  • Caffi gyda bwyd a diod o ffynonellau lleol.
  • Siop anrhegion yn cynnwys cynhyrchion a wnaed yng Nghymru.
  • Amrywiaeth o gyfleusterau toiledau, gan gynnwys newid babanod, niwtral o ran rhywedd a chyfleuster ‘Changing Places’ sydd â gwely newid oedolion a theclyn codi.
  • Wi-Fi am ddim.
  • Ffynnon ddŵr am ddim.
  • Ystafell cymorth cyntaf gyda diffibriliwr.

Sylwch nad oes gennym ystafell gotiau.

Cysylltwch â ni

Oes gennych chi gwestiwn cyn eich ymweliad? Cysylltwch â'n tîm, rydym yn hapus i helpu.