Y Senedd

Y Senedd

Pobl Niwrowahanol

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/01/2025   |   Amser darllen munudau

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwella hygyrchedd i bawb, a hynny ar gyfer pob un o'r nodweddion gwarchodedig fel y'u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad blaenllaw yn ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb a gwella hygyrchedd i bawb.

Rhan o'r ymrwymiad hwn yw sicrhau bod ein hadeiladau'n hygyrch i bobl niwrowahanol a bod gan ein staff yr hyfforddiant i'w croesawu.

Datblygwyd yr adran hon i roi gwybodaeth i bobl niwroamrywiol. Byddwn yn parhau i adolygu, diweddaru a gwella gwasanaethau i wella profiad ymwelwyr i'n hystad.

Mae ein hystad yn cynnwys y Senedd, Tŷ Hywel a'r Pierhead ym Mae Caerdydd. Mae gwybodaeth i bobl niwrowahanol am yr adeiladau hyn ar gael isod.

Gwybodaeth i gynllunio'ch ymweliad.

Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd

Gwybodaeth am faterion synhwyraidd efallai y bydd ymwelwyr yn dod ar eu traws :

Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd  

Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd (fersiwn hawdd ei ddeall)

Larwm Tân y Senedd

Profir y larwm tân ar fore Llun, bore Mawrth a bore Mercher am tua 08.45. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud a ble i fynd. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.

 

Cloch y Cyfarfod Llawn yn y Senedd

Am 13.20 a 13.25 ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, gallwch ddisgwyl clywed sŵn y gloch sy'n galw'r Aelodau i'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae hefyd yn canu i alw Aelodau i bleidleisio. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad i osgoi Cloch y Cyfarfod Llawn. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y gloch.

 

Larwm tân y Pierhead

Profir y larwm tân bob bore Llun am 09.30, cyn bod ymwelwyr yn cael dod i mewn. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.

 

Larwm tân Tŷ Hywel

Profir y larwm tân bob bore Llun am 09.00. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad er mwyn osgoi'r prawf larwm tân. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.

Cloch y Cyfarfod Llawn Tŷ Hywel

Am 13.20 a 13.25 ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, gallwch ddisgwyl clywed sŵn y gloch sy'n galw'r Aelodau i'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae hefyd yn canu i alw Aelodau i bleidleisio. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad i osgoi Cloch y Cyfarfod Llawn. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y gloch.

 
I archebu copïau caled neu fformatau eraill megis print bras a Braille, cysylltwch â ni.