Dweud eich dweud

Cyhoeddwyd 12/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/12/2020   |   Amser darllen munud

Mae ein Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion yn gweithio gyda chi, pobl Cymru, i roi cyfleoedd i ddweud eich dweud am y materion sy'n effeithio ar ein bywydau.

Mae Pwyllgorau'r Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, drwy graffu ar y polisïau a bennir ganddynt, yr arian y maent yn ei wario, a’r cyfreithiau y maent yn eu cynnig. Mae clywed gan y rhai sydd â phrofiad byw yn hanfodol i waith y Pwyllgorau. Ein nod yw creu cyfleoedd diddorol a hygyrch i chi ymgysylltu â'r gwaith hwn a dylanwadu arno, ar draws ystod o faterion fel iechyd, addysg, trafnidiaeth, yr economi a'r amgylchedd.

 

Mae rhai enghreifftiau o'n gwaith wedi'u nodi isod.

Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru.

Gwnaethom drefnu grwpiau ffocws, a chynnal fforwm ar-lein a oedd yn caniatáu trafodaeth agored a didwyll, lle gallai cyfranogwyr rannu eu barn a'u syniadau, yn ddienw neu fel arall.

Roedd ehangder y safbwyntiau a rannwyd yn adlewyrchu amrywiaeth y cyfranogwyr. Cyflwynwyd cyfraniadau gan famau o Flaenau Gwent i Sir Gaerfyrddin, ac o Ben-y-bont ar Ogwr i Sir y Fflint. Roedd y rhai a gymerodd ran yn cynnwys mamau ifanc, mamau sengl, mamau o gartrefi ag incwm isel a rhai ohonynt mewn gwaith, rhai'n rhan-amser a rhai ar gontractau dim oriau, ac eraill yn ddi-waith.

Daeth nifer o themâu allweddol i'r amlwg a lywiodd y sesiynau tystiolaeth dilynol yn ogystal â'r argymhellion a wneir i Lywodraeth Cymru yn adroddiad y Pwyllgor.

 

Ar y trywydd iawn? Masnachfaint Rheilffyrdd a Metro De Cymru

Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd ddarn o waith ar gaffaeliad Llywodraeth Cymru ar Fasnachfraint nesaf Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a'r Metro.

Roedd y Pwyllgor am ganolbwyntio ar flaenoriaethau teithwyr, felly lluniwyd arolwg i ganiatáu i ddefnyddwyr rheilffyrdd ddweud eu dweud. Cynhaliwyd digwyddiad yn yr Amwythig er mwyn tynnu sylw at yr angen i gasglu barn defnyddwyr o bob rhan o ardal y fasnachfraint yng Nghymru a Lloegr. Fe wnaeth hyn ein galluogi i gasglu barn gan grwpiau defnyddwyr a phartïon eraill â diddordeb.

Cafwyd bron i 3,000 o ymatebion i'r arolwg. Defnyddiodd y Pwyllgor gyfraniadau'r arolwg a'r digwyddiad rhanddeiliaid i greu ei Ddeg Blaenoriaeth Uchaf ar gyfer Masnachfraint Newydd Cymru a'r Gororau ac i helpu i ffurfio ei argymhellion a'r adroddiad terfynol.

 

Hawliau Plant yng Nghymru

Dechreuodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adolygiad byr o hawliau plant ar draws Cymru i adolygu effaith Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Gwnaethom ymgysylltu'n uniongyrchol â'r sector ieuenctid drwy ddarparu adnoddau a deunyddiau dan yr enw 'Cyfarfod mewn Blwch'. Yn eu tro, defnyddiodd gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yr adnoddau hyn i gyflwyno sesiwn ryngweithiol gyda'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy, ac anfonwyd y canlyniadau ymlaen at aelodau'r Pwyllgor.

Roedd y gweithgareddau hefyd yn cynnwys tasg bleidleisio - mewn ffordd wirioneddol ddemocrataidd! Cynhaliwyd 45 o sesiynau yn cynnwys 866 o gyfranogwyr o bob un o bum rhanbarth y Senedd. Roedd yr adborth a gafwyd wedi helpu i lywio gwaith y Pwyllgor.

 


Ein Cynulliad Dinasyddion Cyntaf

Ar benwythnos 19 – 21 Gorffennaf, ymgasglodd 58 o’r 60 o bobl a ddewiswyd fel rhai sy’n cynrychioli poblogaeth Cymru yn Neuadd Gregynog, yn y Canolbarth, i gymryd rhan yn ein Cynulliad Dinasyddion cyntaf. Penderfynodd Comisiwn y Senedd gynnal y Cynulliad Dinasyddion hwn fel rhan o’i ddathliadau 20 mlynedd.
Roedd gan y Cynulliad Dinasyddion ddau gwestiwn i’w ystyried:

  • Sut y gall pobl yng Nghymru lywio eu dyfodol?
  • Pa feysydd datganoledig sy’n gweithio’n arbennig o dda a pha rai sy’n herio Cymru?

“Clywais lawer o safbwyntiau diddorol ac amrywiol o amgylch y bwrdd – hoffwn weld rhai o’r rhain yn cael eu gweithredu”.
Niz, aelod o’r Cynulliad Dinasyddion.

Ar ddydd Sul Medi 29, fel rhan o ŵyl GWLAD, cyflwynwyd canfyddiadau Adroddiad y Cynulliad Dinasyddion i Senedd Cymru.