Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.



Sesiynau ymgysylltu ar-lein
Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/02/2021   |   Amser darllen munudau
Dysgwch sut y mae penderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywydau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru drwy gadw lle ar ein gweithdai a'n cyflwyniadau ar-lein am ddim.
Cyflwyniad i'ch Senedd
Bydd y cyflwyniad ar-lein 30 munud hwn yn rhoi trosolwg i chi o:
- Y Senedd – Pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud
- Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Senedd?
- Cynrychioli chi a'ch cymuned: Aelodau o’r Senedd
- Dweud eich dweud
Golwg fanwl ar eich Senedd
Bydd y sesiwn hyfforddi ar-lein hon yn rhoi manylion am:
- Hanes y Senedd
- Rôl yr aelodau
- Sut y caiff Aelodau eu hethol
- Sut mae cyfreithiau'n cael eu gwneud
- Ffyrdd y mae'r Senedd yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif
- Sut y gallwch gymryd rhan a dweud eich dweud
Rydym hefyd yn cynnig sesiynau pwrpasol i grwpiau a sefydliadau, cysylltwch â ni i drafod drwy anfon neges e-bost at cysylltu@senedd.cymru / 0300 200 6565.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Oriel ar-lein o Hyrwyddwyr Cymunedol
Eleni, mae llawer o bobl gyffredin wedi bod yn gwneud pethau hynod anghyffredin i sicrhau lles a diogelwch ein cymunedau.

Ymgysylltu â'r Senedd ar-lein
Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn eich Senedd a sut i ymgysylltu â hi ar-lein.