Y Senedd

Y Senedd

Pobl Niwrowahanol

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/09/2025   |   Amser darllen munudau

Ymweld â’r Senedd: Cymorth i Bobl Niwrowahanol

Rydym am i bawb deimlo bod croeso iddynt yn y Senedd. Os ydych chi'n niwrowahanol, neu'n cefnogi rhywun sy’n niwrowahanol, mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i wneud eich ymweliad mor esmwyth a phleserus â phosibl.

Beth i'w Ddisgwyl yn ystod Eich Ymweliad

Rydym yn deall y gall amgylcheddau newydd fod yn llethol. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth ymweld â'r Senedd:

  • Cyrraedd: Byddwch yn mynd i mewn drwy'r brif fynedfa, lle bydd staff diogelwch yn eich cyfarch. Mae gwiriadau diogelwch ar ffurf maes awyr ar waith, a rhaid i’r holl ymwelwyr gael eu sganio cyn mynd i mewn. Os ydych chi, neu rywun yn eich grŵp yn ei chael hi'n anodd ciwio neu fynd drwy wiriadau diogelwch, gofynnwch i siarad â staff diogelwch sydd wedi'u hyfforddi i fod yn gefnogol ac yn barchus. Gallwch hefyd ofyn i bip y bwa datgelu metel gael ei dawelu.
  • Amgylchedd synhwyraidd: Gall yr adeilad fod yn brysur ac yn swnllyd, yn enwedig yn ystod digwyddiadau. Mae’r goleuadau’n naturiol yn y rhan fwyaf o fannau ond efallai y bydd gan rai mannau oleuadau artiffisial mwy disglair.
  • Mannau tawel: Os oes angen seibiant arnoch, gofynnwch i aelod o staff eich tywys i'n hystafell dawel bwrpasol.
  • Arwyddion: Mae arwyddion clir wedi'u gosod ledled yr adeilad. Mae staff bob amser yn hapus i helpu os oes angen cyfarwyddiadau arnoch.

Cynllunio Ymlaen Llaw

I'ch helpu i baratoi, rydym yn cynnig canllawiau gweledol sy'n egluro beth allwch chi ei ddisgwyl gan gynnwys synau a mannau. 

Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd  

Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd (fersiwn hawdd ei ddeall)

Dyma'r mathau o synau y gallech eu clywed gan gynnwys y larwm tân a chloch y Cyfarfod Llawn.

Larwm Tân y Senedd

Profir y larwm tân ar fore Llun, bore Mawrth a bore Mercher am tua 08.45. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud a ble i fynd. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.

 

Cloch y Cyfarfod Llawn yn y Senedd

Am 13.20 a 13.25 ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, gallwch ddisgwyl clywed sŵn y gloch sy'n galw'r Aelodau i'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae hefyd yn canu i alw Aelodau i bleidleisio. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad i osgoi Cloch y Cyfarfod Llawn. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y gloch.

 

Larwm tân y Pierhead

Profir y larwm tân bob bore Llun am 09.30, cyn bod ymwelwyr yn cael dod i mewn. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.

 

Larwm tân Tŷ Hywel

Profir y larwm tân bob bore Llun am 09.00. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad er mwyn osgoi'r prawf larwm tân. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.

Cloch y Cyfarfod Llawn Tŷ Hywel

Am 13.20 a 13.25 ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, gallwch ddisgwyl clywed sŵn y gloch sy'n galw'r Aelodau i'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae hefyd yn canu i alw Aelodau i bleidleisio. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad i osgoi Cloch y Cyfarfod Llawn. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y gloch.

 Cymorth

Os oes gennych anghenion neu gwestiynau penodol cyn eich ymweliad, cysylltwch â ni.

I archebu copïau caled neu fformatau eraill megis print bras a Braille, cysylltwch â ni.