Hysbysiad Preifatrwydd Atodol Cyflwyniadau Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Cyhoeddwyd 30/07/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2025

Cyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 30 Gorffennaf 2025.

Ein manylion cyswllt

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch ein defnydd o’ch gwybodaeth at y Swyddog Diogelu Data yn: 

diogelu.data@senedd.cymru 

0300 200 6565  

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

Comisiwn y Senedd yw’r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu, a bydd yn sicrhau y caiff ei diogelu a’i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data y DU.

Mae hwn yn hysbysiad preifatrwydd atodol sy'n adlewyrchu cyflwyno ymatebion i ymgynghoriadau drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain ('BSL'). Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â Hysbysiad Preifatrwydd Pwyllgorau’r Senedd.

Pa wybodaeth rydym yn ei phrosesu?

Yn ogystal â'r wybodaeth a nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Pwyllgorau’r Senedd, byddwn yn prosesu eich cyflwyniad fideo o'ch ymateb BSL. Y cam cyntaf wrth i ni brosesu’r cyflwyniad fideo fydd i anfon copi at ein cyfieithydd. 

Ar ôl ei gyfieithu, bydd eich cyflwyniad fideo gwreiddiol a'r cyfieithiad yn cael eu prosesu yn yr un modd â chyflwyniad ysgrifenedig fel yr amlinellir yn Hysbysiad Preifatrwydd Pwyllgorau’r Senedd ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan Pwyllgor y Senedd.

Pam rydym yn ei phrosesu?

Er mwyn rhoi cyfle cyfartal i unigolion ymateb i ymgynghoriad un o bwyllgorau’r Senedd gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain, os mai dyma eu dull a ffefrir o gyfathrebu.

Pwy fydd yn cael mynediad at yr wybodaeth?

Bydd mynediad at eich cyflwyniad yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd Pwyllgorau’r Senedd.

A fydd y wybodaeth yn cael ei rhannu â thrydydd partïon, neu’n cael ei chyhoeddi?

Er mwyn caniatáu i'r Tîm Clercio ddeall cynnwys eich ymateb, rydym wedi cyflogi gwasanaeth cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain proffesiynol a ddarperir gan Helen Foulkes. Bydd gan Helen fynediad at eich ymateb i'r ymgynghoriad fel y'i cyflwynwyd er mwyn iddi allu anfon cyfieithiad cywir yn ôl at Gomisiwn y Senedd. 

Os hoffech gael gwybodaeth am sut mae Helen yn trin ac yn prosesu data personol, cyfeiriwch at ei gwybodaeth preifatrwydd yma: Polisi Preifatrwydd — HFT

Bydd y fideo gwreiddiol a'r cyfieithiad yn cael eu cyhoeddi mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar Fil Iaith Arwyddion Prydain ar wefan Comisiwn y Senedd yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd Pwyllgorau’r Senedd.

Storio, cadw a dileu

Bydd y wybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel ar ein systemau TGCh, sy’n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial Microsoft i brosesu eich gwybodaeth. Bydd unrhyw drosglwyddiad data gan Microsoft y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn dod dan gymalau contract lle y mae Microsoft yn sicrhau y trinnir data personol yn unol â’r ddeddfwriaeth ddomestig. I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Microsoft yn defnyddio eich gwybodaeth, gallwch ddarllen polisi preifatrwydd y cwmni yma.

Byddwn yn cadw copi o'ch cyflwyniad BSL gwreiddiol a'r fersiwn wedi'i chyfieithu yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd Pwyllgorau’r Senedd.

Gall Helen Foulkes gadw eich cyflwyniad ac unrhyw ddeunyddiau a gynhyrchir ohono am hyd at flwyddyn y tu hwnt i ystyriaeth y Senedd o’r mater.

Sail gyfreithiol dros brosesu Data Personol

Mae cyfraith diogelu data yn nodi seiliau cyfreithiol amrywiol sy’n caniatáu i ni gasglu, cadw a defnyddio dy wybodaeth bersonol. At ddibenion prosesu’r data personol a ddarperir gennych, rydym yn dibynnu ar y ffaith bod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd. Y dasg yw hwyluso gwaith pwyllgor seneddol i ymgymryd â'i swyddogaeth ddemocrataidd o graffu ar waith Llywodraeth Cymru a chynrychioli pobl Cymru, a sicrhau bod y pwyllgor yn gallu cyflawni ei swyddogaeth yn unol â'r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb.

Bydd hefyd yn angenrheidiol i'r Comisiwn gyfleu a hyrwyddo gwaith y Senedd ac ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn galluogi'r Senedd i gyflawni ei waith mewn modd mor effeithiol â phosibl. Mae cyfathrebu ac ymgysylltu â phobl Cymru yn galluogi'r Senedd i ystyried barn y bobl y mae'n eu cynrychioli wrth wneud penderfyniadau. Mae hefyd yn gwasanaethu'r diben ehangach o hwyluso gweithgareddau sy'n cefnogi neu'n hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd.

Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu data personol sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau os byddwch yn dewis rhoi data o’r fath, er enghraifft, fel rhan o dystiolaeth a gyflwynir mewn ymateb i alwad pwyllgor am dystiolaeth. Bydd y data hyn yn cael eu prosesu ar y sail bod hynny’n angenrheidiol fel rhan o dasg er budd y cyhoedd, a ddarllenir ar y cyd ag adran 10 o Ddeddf Diogelu Data 2018, a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu Data Categori Arbennig

Mae erthygl 9(1) o’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn diffinio data personol categori arbennig fel data personol sy’n datgelu tarddiad o ran hil neu ethnigrwydd, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, neu aelodaeth o undeb llafur, a phrosesu data genetig, data biometrig i adnabod person naturiol yn unigryw, data sy’n ymwneud ag iechyd neu ddata sy’n ymwneud â bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person naturiol.

Fel arfer, bydd data categori arbennig yn cael eu prosesu ar y sail eu bod yn angenrheidiol er budd sylweddol i'r cyhoedd (fel y darperir yn Erthygl 9(2) (g) o GDPR y DU, a ddarllenir ar y cyd â pharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018).

Rhannu data

Os gwneir cais am wybodaeth dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r cyfan neu rywfaint o’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.  

Eich hawliau 

Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Mae’r hawliau sy’n gymwys yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Ni fydd yr hawliau hynny’n gymwys ym mhob achos, a bydd y Comisiwn yn cadarnhau a yw hynny’n wir ai peidio pan fyddwch yn gwneud cais.

Mae’r hawliau’n cynnwys yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol eich hunan, a elwir weithiau’n ‘gais am fynediad at ddata gan y testun’.

Hefyd, mae gennych hawl i gyflwyno cais i ni i’r perwyl a ganlyn:

  • fod unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch yn cael ei chywiro (nodwch fod gofyn i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau o ran eich gwybodaeth bersonol);
  • bod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei dileu (mewn rhai amgylchiadau);
  • ein bod yn rhoi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol neu mewn rhai amgylchiadau; ac y 
    caiff eich gwybodaeth ei rhoi i chi neu drydydd parti mewn fformat cludadwy (eto, mewn amgylchiadau penodol).

Os hoffech arfer unrhyw rai o’r hawliau sydd gennych o dan ddeddfwriaeth diogelu data, dylech ofyn cwestiwn neu wneud cwyn ynghylch sut y defnyddir eich gwybodaeth.

Cwyno

Gallwch gwyno i’r Swyddog Diogelu Data os ydych yn anfodlon ar sut rydym wedi defnyddio eich data. Ceir y manylion cyswllt uchod.

Yn dilyn cwyn, os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon ar ein hymateb, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113