01/02/2012 - Iechyd, Cwnsler Cyffredinol a Comisiwn

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Ionawr 2012 i’w hateb ar 1 Chwefror 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer cynllun mân anhwylderau. OAQ(4)0078(HSS)

2. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynlluniau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. OAQ(4)0070(HSS)

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r gwasanaeth iechyd yng ngorllewin Cymru. OAQ(4)0075(HSS)

4. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu ac i weithredu strategaeth iaith Gymraeg newydd ar gyfer y GIG. OAQ(4)0085(HSS)W

5. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Uned Iaith Gymraeg y GIG. OAQ(4)0073(HSS)W

6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ddarpariaeth gwasanaeth iechyd sydd ar gael i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog. OAQ(4)0080(HSS)

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro gweithgareddau BILlau i fynd i’r afael â diabetes. OAQ(4)0071(HSS)

8. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu gweithgareddau Llywodraeth Cymru i wella’r cydweithio rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd. OAQ(4)0072(HSS)

9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais. OAQ(4)0081(HSS)

10. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau a gafwyd rhwng y Gweinidog, neu aelodau o’i hadran, a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ynglyn â’i gynllun gweithredu i fynd i’r afael â maeth cleifion. OAQ(4)0076(HSS)W

11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda’r llwybr ail-fwydo plant yn y fframwaith anhwylderau bwyta. OAQ(4)0074(HSS)

12. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal heintiau sy’n gysylltiedig ag ysbytai rhag lledaenu. OAQ(4)0083(HSS)

13. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer gwasanaethau ysbytai’r GIG yng ngogledd Cymru yn 2012. OAQ(4)0084(HSS)

14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu gweithrediad yr Adolygiad o Niwrowyddoniaeth. OAQ(4)0079(HSS)

15. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gyfer hyfforddi gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn weithwyr gofal meddygol sy’n gweithio yn y GIG. OAQ(4)0077(HSS)

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol

1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei gyfraniad at raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. OAQ(4)0025(CGE)

2. Eluned Parrott (Canol De Cymru): O gofio bod modd i’r Cwnsler Cyffredinol wneud sylwadau priodol am unrhyw fater sy’n effeithio ar Gymru, sylwadau ynghylch pa bynciau, ac i bwy, y mae wedi’u gwneud yn ystod y Cynulliad hwn. OAQ(4)0026(CGE)

3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael gyda’r farnwriaeth a chyrff perthnasol eraill ynghylch gwaith tribiwnlysoedd Sharia yng Nghymru. OAQ(4)0027(CGE) W

Gofyn i Un o Gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad

1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Beth mae’r Comisiwn yn ei wneud i hyrwyddo defnyddio Siambr Hywel. OAQ(4)0037(AC)

2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa werthusiad y mae’r Comisiwn wedi’i wneud o’r gwasanaethau glanhau sydd ganddo ar gontract. OAQ(4)0040(AC)

3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae’r Comisiwn yn eu cymryd i hyrwyddo siop y Cynulliad. OAQ(4)0042(AC)

4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae’r Comisiwn wedi’i wneud o ddigonolrwydd y lle sydd ar gael yn y Cynulliad i gynnal cyfarfodydd sydd â nifer mawr yn bresennol. OAQ(4)0036(AC)

5. Lynne Neagle (Tor-faen): Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o nifer y staff a gyflogir gan Gomisiwn y Cynulliad sy’n ennill llai na £7.20 yr awr. OAQ(4)0038(AC)

6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Comisiynydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i wella gwasanaethau TGCh i Aelodau’r Cynulliad. OAQ(4)0039(AC)

7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad ynghylch darparu ar gyfer ceir trydan ar ystad y Cynulliad. OAQ(4)0041(AC) W