Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mai 2009 i’w hateb ar 02 Mehefin 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gofal ar gyfer cleifion Ffibrosis Systig yng Nghymru. OAQ(3)2010(FM)
2. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hybu buddiannau pobl hŷn yng Nghymru. OAQ(3)2002(FM)
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio arferion gorau yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)2019(FM)
4. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau ei weinyddiaeth i hybu addysg bellach a dysgu gydol oes yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)2011(FM)
5. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. OAQ(3)2012(FM)
6. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffyrdd y gellir clywed safbwyntiau pobl ifanc a’u cynnwys ym mholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)2017(FM)
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau hamdden yng Nghymru. OAQ(3)2006(FM)
8. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion i wella amodau ar gyfer staff y GIG. OAQ(3)2005(FM)
9. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith yn y Canolbarth. OAQ(3)2015(FM)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am grantiau Llywodraeth Cynulliad Cymru i fudiadau cymunedol. OAQ(3)2020(FM)
11. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. OAQ(3)2003(FM)
12. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi’r diwydiant llaeth. OAQ(3)2022(FM)
13. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am swyddogaeth prentisiaethau yng Nghymru. OAQ(3)2007(FM)
14. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i liniaru tagfeydd traffig ar yr M4 yn ardal Casnewydd. OAQ(3)2001(FM)
15. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael ynghylch cyflogau isel yng Nghymru. OAQ(3)2009(FM)