02/07/2013 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Mehefin 2013 i’w hateb ar 2 Gorffennaf 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)1162(FM)

2. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn Nhorfaen? OAQ(4)1167(FM)

3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain? OAQ(4)1156(FM)

4. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau twristiaeth treftadaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1168(FM)W

5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol? OAQ(4)1157(FM)

6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch model pwerau a gedwir yn ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ(4)1159(FM)

7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad economaidd Llywodraeth Cymru yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1166(FM)

8. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod digon o brotocolau diogelu ar waith ar gyfer plant ac oedolion agored i niwed? OAQ(4)1161(FM)

9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei bolisïau ar gyfer cefnogi gwasanaethau iechyd? OAQ(4)1164(FM)

10. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yng nghyswllt y targedau allweddol ym maes iechyd a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu? OAQ(4)1160(FM)

11. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu Rhanbarth Dinesig Bae Abertawe? OAQ(4)1163(FM)

12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bodloni safonau cydraddoldeb yng nghyswllt cyfansoddiad Byrddau Sector Cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)1165(FM)

13. Eluned Parrott (Canol De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu prentisiaethau i’r rheini sy’n gadael yr ysgol yng Nghymru? OAQ(4)1158(FM)

14. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Chymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL) a thîm prosiect Cornerstone Mutual Services ynghylch y Rhaglen Ehangu Undebau Credyd? OAQ(4)1155(FM)