Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Medi 2012
i’w hateb ar 2 Hydref 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud cymunedau’n fwy diogel. OAQ(4)0683(FM)
2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot. OAQ(4)0671(FM) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig
3. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer hybu twristiaeth yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0686(FM)
4. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru. OAQ(4)0675(FM) W Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig
5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer gweithredu rheoliadau’r Mesur Diogelwch Tân Domestig. OAQ(4)0676(FM)
6. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i sicrhau bod cynlluniau’r Ddeoniaeth i hyfforddi meddygon ar gyfer y dyfodol yn ddigonol. OAQ(4)0682(FM) W
7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gwella economi Gorllewin De Cymru. OAQ(4)0680(FM)
8. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a thai cymdeithasol yng Nghanol Caerdydd. OAQ(4)0670(FM)
9. David Melding (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i nodi pen-blwydd canolfan iaith a threftadaeth Nant Gwrtheyrn yn 30 oed. OAQ(4)0681(FM)
10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod rhwydwaith cefnffyrdd Cymru mor ddiogel â phosibl. OAQ(4)0678(FM)
11. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd yng Nghymru. OAQ(4)0668(FM) W
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0684(FM)
13. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A yw Llywodraeth Cymru wedi asesu faint o dwf economaidd a chynnydd mewn cyflogaeth y mae’n disgwyl iddynt gael eu creu yng Nghymru o ganlyniad i gynigion Llywodraeth y DU i ddiwygio cyfraith cyflogaeth, gan gynnwys newidiadau ynghylch diswyddo annheg a chyflwyno ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth. OAQ(4)0685(FM)
14. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Thrysorlys y DU i drafod cyllido Cymru. OAQ(4)0672(FM) W
15. Elin Jones (Ceredigion): Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi Cymru dros y flwyddyn nesaf. OAQ(4)0673(FM) W