03/06/2014 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Mai 2014 i’w hateb ar 3 Mehefin 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru? OAQ(4)1699(FM)

2. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o adroddiad Sefydliad yr RAC am gyfraddau damweiniau ymysg gyrwyr ifanc? OAQ(4)1691(FM)

3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithlu Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1683(FM)

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru? OAQ(4)1687(FM)

5. Julie James (Gorllewin Abertawe): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i warchod a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ(4)1686(FM)

6. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o berfformiad y sector adeiladu yng Nghymru? OAQ(4)1695(FM)

7. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y bydd y Prif Weinidog yn cael ei gyfarfod nesaf â Phrif Weinidog yr Alban? OAQ(4)1682(FM)W

8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(4)1684(FM)

9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision aros yn rhan o’r UE i Gymru? OAQ(4)1689(FM)

10. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am uwchgynhadledd NATO sy’n dod i Gymru eleni? OAQ(4)1690(FM)

11. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoli’r rhwydwaith cefnffyrdd yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)1696(FM)

12. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Gronfa Cymorth Dewisol? OAQ(4)1688(FM)

13. Sandy Mewies (Delyn): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud ynghylch a oes modd i’r dreth ystafell wely gael effaith gadarnhaol ar strategaeth i leihau tlodi plant? OAQ(4)1698(FM)

14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth arall y gall y Prif Weinidog ei wneud i gael pob hil i fyw’n gytûn yng Nghymru? OAQ(4)1694(FM)

15. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiau diwygio lles yn Nhorfaen? OAQ(4)1697(FM) TYNNWYD YN OL