Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Tachwedd 2008 i’w hateb ar 03 Rhagfyr 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am yr effaith y mae ei bolisïau yn ei chael ar fywydau trigolion Canol De Cymru. OAQ(3)0536(SJL)
2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i leihau troseddu yn Nyffryn Clwyd. OAQ(3)0559(SJL)
3. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiadau llywodraeth leol mewn cyfrifon tramor. OAQ(3)0535(SJL)
4. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y bwlch rhwng cyflog dynion a menywod yng Nghymru. OAQ(3)0544(SJL)
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gronfa Datblygu Swyddfa’r Post. OAQ(3)0530(SJL)
6. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth graffu Cynghorwyr yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0539(SJL)
7. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i geiswyr lloches yng Nghymru. OAQ(3)0529(SJL)
8. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau Awdurdodau Lleol yn cael eu cyllido’n briodol ledled Cymru. OAQ(3)0553(SJL)
9. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cynnal ynghylch plismona cymunedol yng Nghymru. OAQ(3)0542(SJL) TYNNWYD YN OL
10. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o oblygiadau’r Papur Gwyrdd diweddar ar Blismona i Lywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0565(SJL)
11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u derbyn ynghylch y gwasanaeth tacsis yng Nghasnewydd. OAQ(3)0567(SJL) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
12. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch Rhwydwaith Swyddfa’r Post yng Nghymru. OAQ(3)0550(SJL)
13. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y mesurau a gymerwyd i ysgogi gwasanaethau awdurdodau lleol. OAQ(3)0570(SJL)
14. Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu perchnogion tai sy’n wynebu adfeddiannu. OAQ(3)0578(SJL) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
15. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau ynghylch cynlluniau gwrthdlodi. OAQ(3)0560(SJL)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisi ar arloesedd a rhagoriaeth yn y Celfyddydau. OAQ(3)0552(HER)
2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddwyieithrwydd yng Nghymru. OAQ(3)0555(HER)
3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd cestyll wrth hyrwyddo twristiaeth treftadaeth. OAQ(3)0564(HER)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y prif sialensiau sy’n wynebu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y portffolio treftadaeth yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0532(HER)
5. Irene James (Islwyn): Beth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi camlesi hanesyddol yng Nghymru. OAQ(3)0546(HER)
6. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y portffolio treftadaeth. OAQ(3)0531(HER)
7. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): Beth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi’r gwaith o adnewyddu a gwarchod adeiladau hanesyddol yng Nghymru. OAQ(3)0545(HER)
8. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella Aberconwy fel cyrchfan i dwristiaid. OAQ(3)0572(HER)
9. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am blant dan bump yn defnyddio’r iaith Gymraeg fel iaith gyntaf. OAQ(3)0573(HER) TYNNWYD YN OL
10. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r trafodaethau y mae wedi’u cael ynghylch hyrwyddo cyfleoedd twristiaeth a fydd yn deillio o’r Cwpan Ryder. OAQ(3)0563(HER)
11. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cael ynghylch cynnig Cymru i gynnal pencampwriaethau pêl-droed Ewrop yn 2016. OAQ(3)0541(HER)
12. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod pensaernïaeth Oes Fictoria yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0533(HER) TYNNWYD YN OL
13. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i annog gweithgareddau diwylliannol y tu allan i Gaerdydd. OAQ(3)0550(HER)
14. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yng Nghymru. OAQ(3)0561(HER)
15. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cyflwyno mynediad am ddim i Faddondai Rhufeinig Cadw yng Nghaerllion. OAQ(3)0538(HER)
Gofyn i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad
1. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiynydd amlinellu’r rheolau presennol ynghylch chwifio baneri y tu allan i’r Senedd. OAQ(3)0018(AC) W
2. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Comisiynydd ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth teleffoni presennol a ddarperir i Aelodau a staff ym Mae Caerdydd. OAQ(3)0016(AC)
3. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ddyfodol Canolfan Ymwelwyr Gogledd Cymru. OAQ(3)0017(AC)
4. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ad-dalu’r elw a wnaed o werthu’r eiddo a brynwyd gan gronfeydd Comisiwn y Cynulliad. OAQ(3)0015(AC)
5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Faint o arian wariodd y Cynulliad ar y cais Rhyddid Gwybodaeth diweddar ynghylch costau teithio, lwfansau costau swyddfa a lwfansau ychwanegol Aelodau. OAQ(3)0019(AC)