Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 31 Hydref 2013 i’w hateb ar 5 Tachwedd 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu eu cymryd i wella economi de-ddwyrain Cymru? OAQ(4)1308(FM)
2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal cam-werthu cynnyrch gwarchod rhag risgiau cyfraddau llog i fusnesau bach? OAQ(4)1313(FM)
3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wersi ar ddiogelwch y rhyngrwyd mewn ysgolion? OAQ(4)1300(FM)
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Mon): Beth ydy pwerau Llywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud a chofrestru tir? OAQ(4)1309(FM)W
5. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau salwch resbiradol yng Nghymru? OAQ(4)1311(FM)
6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer chwaraeon yng Nghymru am y deuddeg mis nesaf? OAQ(4)1296(FM)
7. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am broblemau denu a chadw arbenigwyr meddygol yn ysbytai Bwrdd Iechyd Hywel Dda? OAQ(4)1310(FM)W
8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch y ffordd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1314(FM)
9. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gael pobl ddi-waith yn ôl i weithio? OAQ(4)1312(FM)
10. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu ymweld yn swyddogol a’r Alban i drafod ei fwriad i sefydlu ‘Confensiwn Cyfansoddiadol’ yn y DU? OAQ(4)1302(FM)W TYNNWYD YN ÔL
11. Nick Ramsay (Mynwy): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi Cymru? OAQ(4)1299(FM)
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau diogelwch gweithwyr iechyd yng Nghymru? OAQ(4)1304(FM)
13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu gwyddorau bywyd yng Nghymru? OAQ(4)1303(FM)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y GIG yng Nghymru? OAQ(4)1298(FM)
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at gyhoeddi ystadegau perfformiad ar ardaloedd menter yng Nghymru? OAQ(4)1307(FM)