Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25ain Tachwedd 2008 i’w hateb ar 9fed Rhagfyr 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamddefnyddio alcohol yng Nghymru. OAQ(3)1536(FM)
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr heriau allweddol sy’n wynebu Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)1534(FM)
3. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn newydd. OAQ(3)1533(FM)
4. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch staff mewn ysbytai yng Nghymru. OAQ(3)1526(FM)
5. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael ynghylch adeiladu ffyrdd ym Mro Morgannwg. OAQ(3)1547(FM)
6. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diffyg cyllid cyhoeddus i brifysgolion yng Nghymru o’i gymharu â’r cyllid yn Lloegr. OAQ(3)1553(FM)
7. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer addysg Gymraeg i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 mlwydd oed. OAQ(3)1543(FM) W
8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith y caiff Gemau Olympaidd Llundain ar gyllid y Loteri yng Nghymru. OAQ(3)1546(FM)
9. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau i gleifion AIDS yng Nghymru. OAQ(3)1539(FM)
10. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo aelwydydd yng Nghymru a all fod mewn perygl ariannol. OAQ(3)1552(FM)
11. Helen Mary Jones (Llanelli): A all y Prif Weinidog wneud datganiad am nifer yr achosion o wenwyn carbon monocsid yng Nghymru. OAQ(3)1550(FM) TYNNWYD YN OL
12. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru. OAQ(3)1535(FM)
13. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith yn y Canolbarth. OAQ(3)1529(FM) TYNNWYD YN OL
14. Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i gefnogi plant agored i niwed yng Nghymru. OAQ(3)1542(FM)
15. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn amlinellu’r cynlluniau i uno’r pedwar Tribiwnlys Prisio yng Nghymru a chreu un Tribiwnlys Prisio. OAQ(3)1527(FM)