Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Ebrill 2008
i’w hateb ar 14 Mai 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
1. Michael German (Dwyrain De Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau gwerth am arian wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. QAQ(3)0331(FPS) TYNNWYD YN ÔL
2. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch fformiwla Barnett. QAQ(3) 0324(FPS)
3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i wella caffael yn y sector cyhoeddus. QAQ(3)0309(FPS)
4. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei weledigaeth ar gyfer cyllidebu a rheoli cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru. QAQ(3)0322(FPS)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa sylwadau a gafodd y Gweinidog yn ystod cylch y gyllideb ynghylch dyraniadau cyllido ar gyfer Canol De Cymru. QAQ(3)0308(FPS)
6. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Cynllun Gofodol Cymru’n effeithio ar Ddwyrain De Cymru. QAQ(3)0334(FPS)
7. David Melding (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch darparu cyllid ychwanegol i'r portffolio Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. QAQ(3)0304(FPS)
8. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau diweddar gyda'r Trysorlys ynglŷn â'r goblygiadau i Gymru yn sgil y gwariant ar y gemau Olympaidd yn Llundain. OAQ(3)0332(FPS)
9. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiect Budd i’r Gymuned Gwerth Cymru. OAQ(3)0315(FPS)
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu ei gynlluniau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn well. OAQ(3)0318(FPS)
11. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cyfradd gwella gwasanaethau cyhoeddus dros y pum mlynedd diwethaf. OAQ(3)0341(FPS)
12. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu adroddiad cynnydd am yr agenda Creu’r Cysylltiadau. OAQ(3)0301(FPS) TYNNWYD YN ÔL
13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella prosesau caffael gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(3)0338(FPS)
14. William Graham (Dwyrain De Cymru): Beth yw prif ystyriaethau’r Gweinidog ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn well yng Nghymru. OAQ(3)0299(FPS)
15. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau yn y sector cyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(3)0326(FPS)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y cyllid ar gyfer sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. OAQ(3)0395(CEL)
2. Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i wella adeiladau ysgol yng Nghymru. OAQ(3)0417(CEL)
3. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wneud Merthyr Tudful yn dref prifysgol. OAQ(3)0432(CEL)
4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y cyllid ar gyfer addysg uwch yng Nghymru. OAQ(3)0396(CEL)
5. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i wella maeth mewn ysgolion yng Nghymru. OAQ(3)0388(CEL)
6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A all y Gweinidog gadarnhau bod Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster mynediad derbyniol ym mhob prifysgol yn y DU. OAQ(3)0391(CEL)
7. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu gwybodaeth ar sail sgiliau pobl ifanc sy’n gadael ysgol. OAQ(3)0399(CEL) TYNNWYD YN ÔL
8. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y swyddogaeth sydd gan Ysgolion Rudolf Steiner yng Nghymru. OAQ(3)0429(CEL)
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw sylwadau a gafodd am y Cyfnod Sylfaen. OAQ(3)0402(CEL)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau perfformiad ysgolion yng Nghymru. OAQ(3)0385(CEL)
11. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb addysg. OAQ(3)0433(CEL)
12. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer datblygu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y sector addysg uwch. OAQ(3)0423(CEL) W
13. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch pŵer llywodraethwyr ysgol. OAQ(3)0410(CEL)
14. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i hybu datblygiad athrawon yng Nghymru. OAQ(3)0404(CEL)
15. David Melding (Canol De Cymru): Yn 2007, pa ganran o ddisgyblion yng Nghymru a gafodd TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg. OAQ(3)0444(CEL)