15/01/2013 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Ionawr 2013 i’w hateb ar 15 Ionawr 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer 2013. OAQ(4)0835(FM)

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. OAQ(4)0850(FM)

3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa bolisïau o’r Rhaglen Lywodraethu y mae’n disgwyl eu cyflawni yn 2013. OAQ(4)0843(FM)

4. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwaith sy’n cael ei wneud ar atal strôc yng Nghymru. OAQ(4)0842(FM)

5. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd y Bathdy Brenhinol i economi de Cymru. OAQ(4)0849(FM)

6. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu teuluoedd gyda phlant anabl i ymdopi â’r toriadau mewn budd-daliadau. OAQ(4)0846(FM)

7. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn 2013. OAQ(4)0837(FM)W

8. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Ym marn y Prif Weinidog, beth yw’r heriau a’r cyfleoedd i economi Cymru yn 2013. OAQ(4)0844(FM)

9. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a chynnal adeiladau rhestredig Gradd 1 yng Nghymru. OAQ(4)0838(FM)

10. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r effaith ar deuluoedd yng Nghymru yn sgîl y newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i’r budd-daliadau mewn gwaith. OAQ(4)0845(FM)

11. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Digwyddiadau Mawr. OAQ(4)0851(FM)W

12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin): Pa wersi am fandio ysgolion uwchradd y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn berthnasol i ysgolion cynradd. OAQ(4)0847(FM)W

12. Simon Thomas (Mid and West Wales): What lessons regarding secondary school banding does the First Minister consider are relevant to primary schools. OAQ(4)0847(FM)W

13. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc yn y Gogledd-ddwyrain. OAQ(4)0836(FM)

14. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr economi yng Ngorllewin De Cymru yn tyfu. OAQ(4)0848(FM)

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â diffyg fitamin D. OAQ(4)0839(FM)