Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 01 Mawrth 2011 i’w hateb ar 15 Mawrth 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am daliadau PAC. OAQ(3)3467(FM) W
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. OAQ(3)3468(FM)
3. Veronica German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwydiant twristiaeth yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)3465(FM)
4. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i leihau nifer y bobl sy’n ysmygu. OAQ(3)3473(FM)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y DU hyd yma yn 2011. OAQ(3)3479(FM)
6. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol economi Cymru. OAQ(3)3475(FM)
7. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cymru a Llundain. OAQ(3)3474(FM)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn helpu i ddileu tlodi plant. OAQ(3)3466(FM)
9. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr economi Cymru. OAQ(3)3481(FM)
10. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(3)3464(FM)
11. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'u cael gydag Undebau Llafur sy'n cynrychioli gweithwyr llywodraeth leol. OAQ(3)3480(FM)
12. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau cydlyniant cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)3469(FM)
13. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pobl hyn. OAQ(3)3470(FM)
14. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â chael gwared ar sieciau banc yn raddol. OAQ(3)3482(FM)
15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am reolau llywodraeth leol yn ymwneud â Chynghorwyr yn datgan buddiannau. OAQ(3)3477(FM)