15/03/2017 - Cyllid a'r Comisiwn

Cyhoeddwyd 08/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/03/2017

​Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2017

i'w hateb ar 15 Mawrth 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau gwasanaethau cyhoeddus o fewn Dinas a Sir Abertawe? OAQ(5)0104(FLG)
 
2. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb cychwynnol yr awdurdodau lleol i'r papur gwyn ar ddiwygio Llywodraeth Leol yng Nghymru? OAQ(5)0111(FLG)W
 
3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid canlyniadol Barnett sy'n deillio o Gyllideb y Gwanwyn Canghellor y DU? OAQ(5)0114(FLG)
 
4. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau Cyllideb y Gwanwyn 2017 Llywodraeth y DU i grant bloc Cymru? OAQ(5)0110(FLG)
 
5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gynyddu tryloywder o ran llywodraeth leol? OAQ(5)0112(FLG)
 
6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu cyllid i'r portffolio Cymunedau a Phlant i gefnogi cynllun peilot parcio ceir Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0105(FLG)
 
7. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y panel cynghori allanol ar dynnu allan o'r UE? OAQ(5)0107(FLG)
 
8. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ag awdurdodau lleol i sicrhau llywodraethu atebol a thryloyw o ran Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ(5)0108(FLG)
 
9. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd cyllideb atodol Llywodraeth Cymru o fudd i bobl Islwyn? OAQ(5)0113(FLG)
 
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynnydd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi'i wneud i fodloni eu hymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(5)0109(FLG)
 
11. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o allu adrannau safonau masnach awdurdodau lleol i fynd i'r afael â chyflenwyr twyllodrus cynnyrch rhyngwladol? OAQ(5)0103(FLG)
 
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth lleol, gan gyfeirio'n arbennig at drefniadau ar gyfer gweithio'n rhanbarthol? OAQ(5)0106(FLG)
 
13. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol? OAQ(5)0102(FLG)

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i hybu teithio i'r Cynulliad mewn cerbydau trydan? OAQ(5)0004(AC)