Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Mai 2012 i’w hateb ar 15 Mai 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i greu swyddi newydd yn y sector preifat yng Nghymru. OAQ(4)0506(FM)
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae’n eu cymryd i sicrhau bod gan Gomisiynydd y Gymraeg annibyniaeth weithredol ac ariannol. OAQ(4)0518(FM) W
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae’r Prif Weinidog yn gweithio i gyflawni ei ‘Raglen Lywodraethu’ ar gyfer pobl Canol De Cymru. OAQ(4)0510(FM)
4. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael ag esgeuluso plant yng Nghymru. OAQ(4)0513(FM)
5. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth yng Nghymru. OAQ(4)0517(FM) W
6. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol. OAQ(4)0511(FM)
7. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol cartrefi gofal preswyl Cymru a arferai fod o dan reolaeth y cwmni Four Seasons. OAQ(4)0514(FM)
8. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol. OAQ(4)0509(FM)
9. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu iechyd a diogelwch yn y gwaith. OAQ(4)0515(FM)
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i wella’r amgylchedd i bobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol. OAQ(4)0507(FM)
11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglyn â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau cyfalaf. OAQ(4)0512(FM) W
12. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer twf yn ardal Bae Abertawe. OAQ(4)0508(FM) TYNNWYD YN ÔL
13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ddi-waith i ddatblygu eu sgiliau a’u cyflogadwyedd er gwaethaf y prinder swyddi am dâl. OAQ(4)0516(FM)