16/04/2013 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Ebrill 2013 i’w hateb ar 16 Ebrill 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): Pa rai o’r argymhellion yn adroddiad Francis y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried? OAQ(4)0996(FM)

2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau ataliol a gymerwyd yn dilyn yr achosion diweddar o'r frech goch? OAQ(4)1002(FM)

3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â’i alwad am Gonfensiwn Cyfansoddiadol ar gyfer y DU? OAQ(4)1001(FM)

4. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros am ambiwlans yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0990(FM)

5. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan ei resymau dros drosglwyddo gwasanaethau gofal dwys i fabanod newydd-anedig yng ngogledd Cymru i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr? OAQ(4)0993(FM)W

6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0988(FM)

7. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effeithiau torri cyfradd uchaf y dreth incwm ar deuluoedd yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0989(FM)

8. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer gwella gwasanaethau band eang i fusnesau yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0998(FM)W

9. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Dechrau’n Deg? OAQ(4)1000(FM)

10. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lygredd amgylcheddol yng Nghilfach Tywyn? OAQ(4)0987(FM)

11. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y modd y rheolir y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru? OAQ(4)0997(FM)

12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella trafnidiaeth yng Nghymru? OAQ(4)0994(FM)

13. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo ffermwyr y mae’r tywydd garw diweddar wedi effeithio arnynt? OAQ(4)0991(FM)

14. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drefniadau penodol a wnaed i gydlynu ymateb y sector cyhoeddus i’r eira trwm diweddar yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0992(FM)W

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynnydd y gall y Prif Weinidog adrodd yn ei gylch o ran datganoli pwerau trwyddedu alcohol? OAQ(4)0995(FM)