Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 02 Tachwedd 2010 i’w hateb ar 16 Tachwedd 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Trish Law (Blaenau Gwent): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud tuag at ei hymrwymiad yn Cymru’n Un i ail-leoli isadrannau Llywodraeth y Cynulliad i’r cymoedd. OAQ(3)3224(FM)
2. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i ddileu trais domestig yng Nghymru. OAQ(3)3229(FM)
3. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith y Fforwm Cymunedau Ffydd. OAQ(3)3223(FM)
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau ledled Cymru. OAQ(3)3227(FM)
5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bêl-droed ieuenctid yn y gogledd. OAQ(3)3234(FM)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer Gogledd Cymru dros weddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)3231(FM)
7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cydweithrediad rhwng gwasanaethau cyhoeddus yn y de ddwyrain. OAQ(3)3221(FM)
8. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)3219(FM)
9. Helen Mary Jones (Llanelli): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â lles plant sy'n ceisio lloches yng Nghymru. OAQ(3)3235(FM) TYNNWYD YN ÔL
10. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brisiau ynni yng Nghymru. OAQ(3)3222(FM)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau Cymru’n Un. OAQ(3)3217(FM)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. OAQ(3)3232(FM)
13. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau ynglyn â chynigion i adeiladu Morglawdd Hafren rhwng Caerdydd a Weston gyda chyllid preifat. OAQ(3)3230(FM)
14. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael ynglyn â’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru. OAQ(3)3237(FM) W
15. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr angen i warchod swyddi yn y sector cyhoeddus. OAQ(3)3220(FM)