16/11/2011 - Addysg a Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 2 Tachwedd 2011 i’w hateb ar 16 Tachwedd 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

1. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at Addysg Uwch yng Nghymru. OAQ(4)0068(ESK)

2. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wella’r cyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc yng Nghymru. OAQ(4)0065(ESK)

3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynllun ar gyfer cyllido Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru. OAQ(4)0055(ESK)

4. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i rannu unrhyw gyngor cyfreithiol y mae wedi’i gael ag Aelodau'r Cynulliad ar y posibilrwydd o her gyfreithiol oherwydd nad yw Cymru yn cyllido myfyrwyr yr UE yn Lloegr. OAQ(4)0061(ESK)

5. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rheoliadau newydd ar gyfer cofnodi gwybodaeth am ddisgyblion ac ysgolion. OAQ(4)0060(ESK)

6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer myfyrwyr yr UE sy’n mynychu Prifysgolion yng Nghymru. OAQ(4)0069(ESK)

7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gydag awdurdodau addysg lleol ynglyn â gwariant cyfalaf. OAQ(4)0053(ESK) W

8. David Melding (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r ymchwil diweddaraf sy’n awgrymu bod dylanwad negyddol ar gyrhaeddiad pobl ifanc os cawsant eu geni yn ystod misoedd yr haf. OAQ(4)0066(ESK)

9. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am asesiadau yn yr ystafell ddosbarth yng Nghymru. OAQ(4)0056(ESK)

10. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog rhieni i fod yn llywodraethwyr ysgol. OAQ(4)0058(ESK)

11. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â pha gynghorau sir sy’n gweithredu Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010. OAQ(4)0064(ESK) W

12. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i wella safonau addysg yn y de orllewin. OAQ(4)0063(ESK)

13. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae’n bwriadu sicrhau bod perfformiad ysgolion yn cael ei fonitro yng Nghymru. OAQ(4)0054(ESK)

14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau addysg yn Nwyrain De Cymru. OAQ(4)0062(ESK)

15. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynllun Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif. OAQ(4)0059(ESK)

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol

1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi ymateb i unrhyw ymgynghoriad ar ran Llywodraeth Cymru yn ymwneud â materion cyfreithiol cyfiawnder ieuenctid. OAQ(4)0017(CGE)

2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Swyddogion y Gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch y gofynion i ymgynghori â Thywysog Cymru ar ddeddfwriaeth Cymru. OAQ(4)0019(CGE)

3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad yn amlinellu ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau. OAQ(4)0018(CGE)

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei swyddogaeth o ran rhoi cyngor ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. OAQ(4)0016(CGE)

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gyfarfod diweddar â’r Comisiwn ar Fil Hawliau Dynol ynglyn â chreu Bil Hawliau ar gyfer y DU. OAQ(4)0020(CGE) W

6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): Sut y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod deddfwriaeth Cymru yn gyson â rheolaeth cyfraith. OAQ(4)0014(CGE)

7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth yw swyddogaeth y Cwnsler Cyffredinol wrth roi cyngor ar Orchmynion a wnaed yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. OAQ(4)0015(CGE