17/07/2012 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Gorffennaf 2012
i’w hateb ar 17 Gorffennaf 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Gwyn Price (Islwyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu cenedlaethau’r dyfodol am hanes diwydiannol Cymru. OAQ(4)0646(FM)

2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal meddygol acíwt yn ardal Castell-nedd Port Talbot. OAQ(4)0634(FM)

3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i helpu rhieni sydd wedi gwahanu i ddatrys problemau sy’n ymwneud â chynhaliaeth a chyswllt. OAQ(4)0640(FM)

4. David Melding (Canol De Cymru): A oes gan Uned Gyflawni’r Prif Weinidog ddangosyddion perfformiad mesuradwy ar waith i fonitro’r gwaith o  hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol. OAQ(4)0637(FM)

5. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau gydag Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi am effaith toriadau i’r gyllideb ar blismona rheng flaen ac ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. OAQ(4)0635(FM)

6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar oriau agor meddygon teulu gan gynnwys pryd y mae’n disgwyl iddo gael ei weithredu. OAQ(4)0639(FM)

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau. OAQ(4)0636(FM)

8. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. OAQ(4)0641(FM)

9. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiadau parthed sicrhau pwerau benthyg i Gymru. OAQ(4)0648(FM) W

10. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hybu hanes Cymru yn y cwricwlwm ysgolion. OAQ(4)0633(FM)

11. Simon Thomas (Canolbarth A Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflawniad mwyaf Llywodraeth Cymru er mis Mai 2011. OAQ(4)0638(FM) W

12. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio economaidd ar draws ardal Bae Abertawe.  OAQ(4)0645(FM)

13. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r economi yn Nelyn.  OAQ(4)0642(FM)

14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu mwy o gydlyniant mewn cymunedau yng Nghymru. OAQ(4)0632(FM)

15. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu band eang cyflym yn Sir Drefaldwyn. OAQ(4)0647(FM)